xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
3 Ionawr 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 126(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 2) 2018.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
2. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 1 Chwefror 2018—
(a)Rhan 5 (rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff); a
(b)adran 94 (dehongli) at ddiben Rhan 5.
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Ionawr 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ar 1 Chwefror 2018 ddarpariaethau o’r Ddeddf sy’n ymwneud â rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 2 | 4 Hydref 2017 | 2017/949 (Cy. 237) (C. 85) |
Adran 3 | 4 Hydref 2017 | 2017/949 (Cy. 237) (C. 85) |
Adran 119 | 4 Hydref 2017 | 2017/949 (Cy. 237) (C. 85) |
Gweler hefyd adran 126(1) o’r Ddeddf am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 3 Gorffennaf 2017 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).