- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3. Yn y Rhan hon—
ystyr “ardal rheolaeth iechyd planhigion” (“area of plant health control”), mewn perthynas â deunydd perthnasol hysbysadwy sydd wedi ei lanio, yw—
ei fan cyrraedd; neu
pan fo’r deunydd wedi ei symud o dan weithdrefnau tollau priodol i ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig neu fan arolygu cymeradwy, yr ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig neu’r man arolygu cymeradwy;
ystyr “ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig” (“designated area of plant health control”) yw man sy’n agos at fan cyrraedd sydd wedi ei ddynodi’n ardal rheolaeth iechyd planhigion gan Weinidogion Cymru a Chomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;
ystyr “y Cod Tollau” (“the Customs Code”) yw Rheoliad (EU) Rhif 952/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod Cod Tollau’r Undeb(1);
mae i “corff swyddogol y gyrchfan” yr un ystyr ag a roddir i “official body of destination” yn Erthygl 2(1)(l) o Gyfarwyddeb 2000/29/EC;
ystyr “deunydd perthnasol hysbysadwy” (“notifiable relevant material”) yw unrhyw ddeunydd perthnasol—
o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 5; neu
o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B o Atodlen 5; ac—
a bennir yng ngholofn 2 o Ran C o Atodlen 4;
a restrir yn ail golofn Atodiad II Rhan B ac sydd wrthi’n cael ei draddodi i barth gwarchod a gydnabyddir fel parth gwarchod ar gyfer y plâu planhigion a bennir mewn cysylltiad â’r deunydd perthnasol hwnnw yng ngholofn gyntaf Atodiad II Rhan B; neu
a restrir yng ngholofn gyntaf Atodiad IV Rhan B ac sydd wrthi’n cael ei draddodi i barth gwarchod a gydnabyddir fel parth gwarchod ar gyfer y plâu planhigion a bennir mewn cysylltiad â’r deunydd perthnasol hwnnw yn Atodiad IV Rhan B;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”), mewn perthynas â’r gofynion hysbysu yn erthyglau 6(2)(c)(ii) ac 16(3) a’r cyfnod y caniateir cadw deunydd amdano o dan erthygl 14(1), yw cyfnod o bedair awr ar hugain nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl y banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(2);
ystyr “man arolygu cymeradwy” (“approved place of inspection”) yw man sydd wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 17;
ystyr “man cyrraedd” (“point of entry”) yw—
yn achos deunydd perthnasol sy’n cyrraedd drwy hedfan, y maes awyr lle mae’r deunydd yn cyrraedd gyntaf;
yn achos deunydd perthnasol sy’n cyrraedd ar drafnidiaeth forol neu afonol, y porthladd lle mae’r deunydd yn cyrraedd gyntaf; neu
yn achos deunydd perthnasol sy’n cyrraedd ar y rheilffordd, y derfynfa llwyth rheilffordd lle mae’r deunydd yn cyrraedd gyntaf.
OJ Rhif L 269, 10.10.2013, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad (EU) 2016/2339 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 354, 23.12.2016, t. 32).
1971 p. 80, y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: