Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 1173 (Cy. 237)

Cyfraith Gyfansoddiadol

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018

Gwnaed

12 Tachwedd 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Tachwedd 2018

Yn dod i rym

21 Ionawr 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 126A(2) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1).

Yn unol ag adran 126A(4) a (6) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Trysorlys, pan feddyliant fod hynny’n briodol, ac mae’r Trysorlys wedi cydsynio i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud.

(1)

2006 p. 32. Mewnosodwyd adran 126A gan adran 44(2) o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 (p. 25).