- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(1) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y Tabl Cynnwys, ym mhenawdau Pennod 1 o Ran 4 a rheolau 1 a 5 o’r Bennod honno, yn lle “phartneriaid enwebedig” rhodder “phartneriaid sy’n cyd-fyw”.
(3) Yn Rhan 1 (enwi a dehongli), yn rheol 2(1) (dehongli)—
(a)yn y diffiniad o “plentyn”, ym mharagraff (a)(iii), yn lle “bartner enwebedig” rhodder “bartner sy’n cyd-fyw”;
(b)hepgorer y diffiniad o “partner enwebedig”; ac
(c)yn y man priodol mewnosoder—
“mae i “partner sy’n cyd-fyw” (“cohabiting partner”) yr ystyr a roddir gan reol 1(6) o Ran 2;”.
(4) Yn Rhan 2 (aelodaeth o’r cynllun, diweddu ac ymddeol), yn rheol 1 (aelodaeth o’r cynllun)—
(a)ym mharagraff (5)(b), yn lle “bartner enwebedig” rhodder “bartner sy’n cyd-fyw”;
(b)yn lle paragraff (6) rhodder—
“(6) At ddibenion paragraff (5), partner sy’n cyd-fyw i aelod-ddiffoddwr tân, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr (y cyfeirir ato yn y paragraff hwn fel “yr aelod o’r cynllun”) yw person—
(a)sy’n byw gyda’r aelod o’r cynllun fel pe bai’r person hwnnw a’r aelod o’r cynllun yn briodau neu’n bartneriaid sifil; a
(b)ar y dyddiad y mae’r cwestiwn o statws y partner sy’n cyd-fyw mewn perthynas â’r aelod o’r cynllun i fod i gael ei ystyried—
(i)nad yw’n briod nac yn bartner sifil i unrhyw berson,
(ii)a allai ymrwymo i briodas neu bartneriaeth sifil â’r aelod o’r cynllun o dan gyfraith Cymru a Lloegr,
(iii)sy’n dibynnu’n ariannol ar yr aelod o’r cynllun, neu sydd, gyda’r aelod o’r cynllun, yn dibynnu’n ariannol ar ei gilydd, a
(iv)sydd mewn perthynas hirdymor â’r aelod o’r cynllun.”;
(c)hepgorer paragraff (7)(b);
(d)hepgorer paragraffau (8) a (9).
(5) Yn Rhan 3 (dyfarndaliadau personol), yn rheol 11(2)(a) (dyrannu pensiwn), yn lle “bartner enwebedig” rhodder “bartner sy’n cyd-fyw”.
(6) Ym Mhennod 1 o Ran 4 (pensiynau goroeswyr)—
(a)ym mhennawd y Bennod ac ym mhennawd rheol 1, yn lle “phartneriaid enwebedig” rhodder “phartneriaid sy’n cyd-fyw”;
(b)yn rheol 1, yn y geiriau sy’n cau paragraff (1), yn lle “bartner enwebedig” rhodder “bartner sy’n cyd-fyw”;
(c)ym mhennawd rheol 5, yn lle “phartneriaid enwebedig” rhodder “phartneriaid sy’n cyd-fyw”.
(7) Yn Rhan 7 (personau wrth gefn), yn rheol 3 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth neu anabledd parhaol), yn y geiriau sy’n cau paragraff (3), yn lle “bartner enwebedig” rhodder “bartner sy’n cyd-fyw”.
(8) Yn Rhan 11 (tâl pensiynadwy, cyfraniadau pensiwn a phrynu gwasanaeth ychwanegol)—
(a)yn rheol 1 (tâl pensiynadwy)—
(i)ym mharagraffau (7) ac (8), yn lle “baragraff 33 o Atodlen 2” rhodder “baragraff 32 o Atodlen 2”;
(ii)ym mharagraff (8), yn lle “pharagraff 33(4) o Atodlen 2” rhodder “pharagraff 32(4) o Atodlen 2”; a
(iii)ym mharagraff (9), yn lle “paragraff 33(3) o Atodlen 2” rhodder “paragraff 32(3) o Atodlen 2”;
(b)yn rheol 2 (tâl pensiynadwy terfynol), ym mharagraff (2A)(b), yn lle “paragraff 33(4) o Atodlen 2” rhodder “paragraff 32(4) o Atodlen 2”.
(9) Yn Rhan 15, hepgorer rheolau 5(3) a 6(3).
O.S. 2007/1072 (Cy. 110); gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2015/1016 (Cy. 71).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: