Diwygiadau i Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 2005
3.—(1) Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 2005(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen—
(a)yn Rhan 1, yn nhestun yr ail golofn yn rhes “Erthygl 10(3)”, yn lle’r geiriau o “heb fod cytundeb” hyd at y diwedd rhodder “na chaniateir eu marchnata yn y Deyrnas Unedig, neu heb i awdurdod cymwys y wlad sy’n mewnforio gytuno’n benodol i awdurdodi’r mewnforio.”;
(b)yn Rhan 2, yn nhestun yr ail golofn yn rhes “Erthygl 6”, hepgorer “ac i’r Comisiwn”.