- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
19.—(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu gan Weinidogion Cymru mewn hysbysiad o dan baragraff (2).
(2) Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig ei gwneud yn ofynnol i aelod ddarparu gwybodaeth benodedig i Weinidogion Cymru.
(3) Mae gwybodaeth benodedig yn cynnwys—
(a)natur unrhyw swyddogaeth berthnasol a gynhelir, neu sydd i’w chynnal, gan yr aelod mewn blwyddyn aelodaeth benodedig,
(b)nifer cyflogeion a chontractwyr yr aelod sydd wedi eu cymryd ymlaen er mwyn i’r aelod gyflawni swyddogaeth berthnasol benodedig neu mewn rhan benodedig o unrhyw swyddogaeth o’r fath,
(c)cymwysterau a phrofiad y cyflogeion hynny a’r contractwyr hynny, a
(d)unrhyw ddigwyddiad y mae’r aelod yn ymwybodol ohono y mae’n ystyried y gallai arwain at atebolrwydd y mae’r Cynllun yn gymwys iddo.
(4) Rhaid i’r aelod gydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff (2) a rhaid iddo—
(a)darparu’r wybodaeth o fewn 28 o ddiwrnodau i gael yr hysbysiad neu o fewn unrhyw gyfnod pellach y mae Gweinidogion Cymru wedi ei ganiatáu yn ysgrifenedig,
(b)darparu’r wybodaeth ar unrhyw ffurf benodedig, ac
(c)cyflwyno’r wybodaeth mewn unrhyw fodd penodedig.
(5) At ddibenion paragraff (3)(b) ac (c), mae’r cyfeiriad at “contractwyr” i’w ddehongli yn unol â rheoliad 9(2).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: