Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 50 (Cy. 15)

Aer Glân, Cymru

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019

Gwnaed

15 Ionawr 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Ionawr 2019

Yn dod i rym

6 Chwefror 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 20(6) o Ddeddf Aer Glân 1993(1).

(1)

1993 p. 11. Trosglwyddwyd swyddogaeth berthnasol yr Ygrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oedd yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Mae’r swyddogaeth honno’n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.