3. Brics glo Aimcor Pureheat, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln, neu a weithgynhyrchir gan Oxbow Carbon & Minerals UK Limited yn Windsor House, Cornwall Road, Harrogate, Gogledd Swydd Efrog—
(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 25% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 250°C;
(c)sy’n frics glo ar siâp gobennydd gyda hicyn ar ffurf llinell sengl ar un ochr a hicyn ar ffurf llinell ddwbl ar yr ochr arall;
(d)sy’n pwyso 75 gram ar gyfartaledd; ac
(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.