31. Brics glo Dual a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln–
(a)a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 55 i 80% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef tua 8 i 20% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 8 i 20% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;
(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd sgwâr;
(d)sy’n pwyso 100 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac
(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.