Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019

42.  Brics glo Fireglo, a weithgynhyrchir gan Les Combustibles de Normandie yn Caen, Ffrainc, a chan La Société Rouennaise de Défumage yn Rouen, Ffrainc—

(a)a gyfansoddir o lychau Cymreig wedi eu golchi (sef tua 92% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o byg glo (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 330°C;

(c)sy’n ofoidau gyda thair llinell ar un ochr a’r ochr arall yn llyfn;

(d)sy’n pwyso 30 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.8% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.