xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
52. Homefire Fire Logs, a weithgynhyrchir gan De Lange BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem, yr Iseldiroedd—
(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 50% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif (sef tua 50% o’r cyfanswm pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;
(c)sydd tua 280 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o led a 75 o filimetrau o uchder, gydag un rhigol ar hyd pob un o’u pedwar wyneb sydd â’u hyd yn 280 milimetr;
(d)sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac
(e)nad yw mwy na 0.2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.