74. Brics glo Newburn, a weithgynhyrchir gan M&G Solid Fuels LLP, Wilton International, Wilton, Middlesbrough, TS90 8WS—
(a)a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 56 i 57% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef tua 37 to 38% o’r cyfanswm pwysau), a rhwymwr powdr sych (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o galedu oer gan ddefnyddio gwasg rholer;
(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd ac yn mesur 70 o filimetrau x 62 o filimetrau x 42 o filimetrau;
(d)sy’n pwyso 110 gram ar gyfartaledd; ac
(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.