xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
81. Brics glo Phurnacite a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln–
(a)a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tua 65 i 85% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o hyd at 300°C;
(c)sy’n frics glo ar siâp ofoidau â dwy linell gyfochrog yn rhedeg yn hydredol o amgylch y fricsen;
(d)sy’n pwyso 40 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac
(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.