xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
87. Smokeless Coal No5 a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln–
(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 60 i 80% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 17% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl/asid neu rwymwr organig (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o hyd at 300°C;
(c)sydd naill ai’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd neu’n frics glo ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf llinell hydredol sengl ar bob wyneb, 10 milimetr i ffwrdd o’r llinell gyfatebol gyferbyn;
(d)sy’n pwyso 55 neu 80 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac
(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.