94. Brics glo Supertherm II, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—
(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 36 i 51% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 40 i 55% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;
(c)sy’n ofoidau wedi eu marcio ag un llinell ledredol ar draws un wyneb i bob bricsen neu’n ofoidau heb eu marcio;
(d)sy’n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; ac
(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau sych yn sylffwr.