PENNOD 1LL+CCyrsiau dynodedig
Cyrsiau dynodedigLL+C
5. Yn y Rheoliadau hyn (ac at ddibenion adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (“Deddf 1998”)), mae cwrs yn gwrs dynodedig—
(a)os yw’n bodloni pob un o’r amodau yn rheoliad 6, a
(b)os nad yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r eithriadau yn rheoliad 7.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 5 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
Cyrsiau dynodedig – amodauLL+C
6.—(1) Yr amodau yw—
Amod 1
Mae’r cwrs yn un—
(a)sy’n arwain at ddyfarndal sydd wedi ei roi neu sydd i’w roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1), a
(b)y mae’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs wedi eu cymeradwyo gan y corff hwnnw.
Amod 2
Mae’r cwrs yn un o’r canlynol—
(a)cwrs llawnamser sy’n para un flwyddyn academaidd neu ddwy flynedd academaidd, neu
(b)cwrs rhan-amser y mae fel arfer yn bosibl ei gwblhau ymhen pedair blynedd academaidd.
Amod 3
Mae’r cwrs wedi ei ddarparu gan—
(a)sefydliad a gyllidir gan Gymru, sefydliad a gyllidir gan yr Alban, sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon neu sefydliad rheoleiddiedig Seisnig (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd o fewn neu y tu allan i’r Deyrnas Unedig), neu
(b)sefydliad Seisnig cofrestredig ar ran darparwr cynllun Seisnig.
Amod 4
Mae o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs yn cael ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig.
(2) At ddibenion Amod 3—
(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio;
(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn—
(i)sefydliad a gyllidir gan Gymru,
(ii)sefydliad a gyllidir gan yr Alban,
(iii)sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon,
(iv)sefydliad rheoleiddiedig Seisnig,
(v)sefydliad Seisnig cofrestredig, neu
(vi)darparwr cynllun Seisnig,
os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn sefydliad o’r fath;
(c)ni fernir bod sefydliad yn sefydliad a gyllidir gan Gymru dim ond am ei fod yn cael arian oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch fel sefydliad cysylltiedig yn unol ag adran 65(3A) a (3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(2).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 6 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
Cyrsiau dynodedig – eithriadauLL+C
7. Nid yw cwrs yn gwrs dynodedig os yw’n cael ei gydnabod yn gwrs dynodedig at ddibenion—
(a)rheoliad 5 neu 83 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(3) (“Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2017”);
(b)rheoliad 5 neu 8 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(4) (“Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2018”);
(c)rheoliad 4 o Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(5) (“Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol 2018”).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 7 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
Dynodi cyrsiau eraillLL+C
8.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru bennu bod cwrs i’w drin fel pe bai’n gwrs dynodedig er gwaethaf y ffaith na fyddai fel arall yn gwrs dynodedig, oni bai am y pennu.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu pennu cwrs a wneir o dan baragraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 8 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
1998 p. 40; diwygiwyd adran 214(2) gan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), adran 93 ac Atodlen 8 a chan Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 53.
1992 p. 13; mewnosodwyd is-adrannau (3A) a (3B) o adran 65 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.
O.S. 2017/47 (Cy. 21), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/191 (Cy. 42) ac O.S. 2018/814 (Cy. 165).
O.S. 2018/191 (Cy. 42), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/813 (Cy. 164) ac O.S. 2018/814 (Cy. 165).
O.S. 2018/656 (Cy. 124), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/814 (Cy. 165).