xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
10. At ddibenion cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys o dan Ran 2, cyfrifir incwm gweddilliol y myfyriwr fel a ganlyn—
Incwm trethadwy’r myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfredol.
Plws
Incwm sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o dan orchymyn trefniadau pensiwn yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, ar ôl didynnu treth incwm.
Minws
Cyfanred y didyniadau a nodir ym mharagraff 11 (oni bai eu bod eisoes wedi eu didynnu at ddibenion penderfynu ar incwm trethadwy’r myfyriwr).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
11. At ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, y didyniadau yw—
Tâl a roddir i’r myfyriwr cymwys yn y flwyddyn academaidd gyfredol am waith a wneir yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd o’r cwrs, ond nid tâl mewn cysylltiad ag—
(a)unrhyw gyfnod o absenoldeb a gymerir gan y myfyriwr, neu
(b)unrhyw gyfnod arall pan fydd y myfyriwr wedi ei ryddhau o ddyletswydd i fod yn bresennol yn y gwaith,
fel y caiff y myfyriwr ymgymryd â’r cwrs.
Swm gros unrhyw bremiwm neu swm a delir gan y myfyriwr cymwys yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol mewn perthynas â phensiwn—
(a)y rhoddir rhyddhad mewn cysylltiad ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(1), neu
(b)pan fo incwm y myfyriwr yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth yn y Deddfau Treth Incwm,
ond nid yw’n cynnwys unrhyw swm a delir fel premiwm o dan bolisi aswiriant bywyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Pan fo’r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfred ac eithrio sterling, gwerth yr incwm yw—
(a)swm y sterling y mae’r myfyriwr cymwys yn ei gael ar gyfer yr incwm, neu
(b)pan na fo’r myfyriwr yn troi’r incwm yn sterling, gwerth y sterling y byddai’r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio cyfradd gyfnewid CThEM.
(2) Cyfradd gyfnewid CThEM(2) yw’r gyfradd a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer y mis sy’n cyfateb i’r mis y ceir yr incwm ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
13. Mae’r Bennod hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo incwm gweddilliol person (“P”) pan fo P yn golygu’r canlynol—
(a)rhiant y myfyriwr cymwys,
(b)partner y myfyriwr cymwys, neu
(c)partner rhiant y myfyriwr cymwys,
yn ôl y digwydd, a phan fo incwm P yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 ym mharagraff 3(1) at ddiben cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
14. Cyfrifir incwm gweddilliol P fel a ganlyn—
Incwm trethadwy P ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys.
Plws
Incwm sy’n daladwy i P o dan orchymyn trefniadau pensiwn yn ystod y flwyddyn ariannol gymwys, ar ôl didynnu treth incwm.
Minws
Cyfanred y didyniadau a nodir ym mharagraff 15 (oni bai eu bod eisoes wedi eu didynnu at ddibenion penderfynu ar incwm trethadwy P).
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
15.—(1) At ddiben cyfrifo incwm gweddilliol P, y didyniadau yw—
Swm gros unrhyw bremiwm neu swm a delir gan P mewn cysylltiad â phensiwn yn ystod y flwyddyn ariannol gymwys—
(a)y rhoddir rhyddhad mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu
(b)pan fo incwm P yn cael ei gyfrifiannu at ddiben deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, y byddai rhyddhad wedi cael ei roi mewn perthynas ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth yn y Deddfau Treth Incwm,
ond nid yw’n cynnwys unrhyw swm a delir fel premiwm o dan bolisi aswiriant bywyd.
Pan fo paragraff 18 yn gymwys, swm sy’n cyfateb i Ddidyniad A ar yr amod nad yw’r swm hwn yn fwy na’r didyniadau a fyddai’n cael eu gwneud pe bai holl incwm P yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm mewn gwirionedd.
£1,130, pan fo P—
(a)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfredol ond hefyd yn rhiant myfyriwr cymwys, neu
(b)wedi cael dyfarndal statudol mewn cysylltiad â’r un cyfnod.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
16.—(1) Mae’r paragraff hwn yn pennu’r flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P.
(2) Oni bai bod is-baragraff (3) yn gymwys, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF-1.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol P ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm gweddilliol P ar gyfer BF-1, y flwyddyn ariannol gymwys yw BG.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
17.—(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan—
(a)y flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P yw BF-1, a
(b)bo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm P yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes neu broffesiwn a gynhelir gan P.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, incwm gweddilliol P yw ei incwm ar gyfer y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n dod i ben yn BF-1 y cedwir cyfrifon mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â busnes neu broffesiwn P.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
18.—(1) Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan fo P yn cael unrhyw incwm nad yw, am unrhyw un neu ragor o’r rhesymau a nodir yn is-baragraff (2), yn ffurfio rhan o incwm P at ddiben y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall.
(2) Y rhesymau yw—
Rheswm 1
(a)nid yw P yn preswylio nac wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu
(b)cyfrifiennir incwm P at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall ac nid yw P yn preswylio nac wedi ymgartrefu yn yr Aelod-wladwriaeth honno.
Rheswm 2
(a)nid yw incwm P yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu
(b)nid yw incwm P yn codi yn yr Aelod-wladwriaeth y cyfrifiennir incwm P ynddi at ddibenion deddfwriaeth treth incwm y Wladwriaeth honno.
Rheswm 3
Mae’r incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae’r incwm ohoni neu ohono yn esempt rhag treth.
(3) Mae incwm trethadwy P i’w gymryd i gynnwys yr incwm a ddisgrifir yn is-baragraff (1) fel pe bai’n rhan o incwm P at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
19.—(1) Pan fo incwm P wedi ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, mae incwm gweddilliol P i’w gyfrifo yn unol â’r Rhan hon yn arian cyfred yr Aelod-wladwriaeth honno ac i’w gymryd fel gwerth sterling yr incwm hwnnw a benderfynir yn unol â chyfradd berthnasol CThEM.
(2) Cyfradd berthnasol CThEM yw’r gyfradd gyfnewid ar gyfartaledd a ddyroddir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer y flwyddyn galendr sy’n dod i ben yn union cyn diwedd BF-1.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
2004 p. 12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007 (p. 11), adrannau 68 a 114 ac Atodlenni 18, 19 a 27, Deddf Cyllid 2013 (p. 29), adran 52 a Deddf Cyllid 2014 (p. 26), Atodlen 7.
Gweler https://www.gov.uk/government/collections/exchange-rates-for-customs-and-vat.