Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Eithrio Treuliau Etholiad) (Cymru) (Diwygio) 2020

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1320 (Cy. 291)

Y Gyfraith Gyfansoddiadol

Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Eithrio Treuliau Etholiad) (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed

19 Tachwedd 2020

Yn dod i rym

19 Tachwedd 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 13(1) a 157(2)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1) a thrwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 15(1) o Ran 3 o Atodlen 4A i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(2) a pharagraff 4 o Ran 2 o Atodlen 8 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(3), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(4).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol yn unol ag adran 7(1), (2)(e) a (2)(f) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 13(7) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, paragraff 15(2) o Ran 3 o Atodlen 4A(5) i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac adran 156(4)(j) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(6).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Eithrio Treuliau Etholiad) (Cymru) (Diwygio) 2020.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Tachwedd 2020 ond—

(a)nid yw erthyglau 2 a 3 ond yn cael effaith at ddibenion etholiad i Senedd Cymru pan gynhelir y bleidlais ar neu ar ôl 5 Ebrill 2021;

(b)nid yw erthyglau 4 a 5 ond yn cael effaith at ddibenion etholiad llywodraeth leol yng Nghymru pan gynhelir y bleidlais ar neu ar ôl 5 Ebrill 2021;

(c)mae erthyglau 6 a 7 yn cael effaith at ddibenion etholiad i Senedd Cymru neu etholiad llywodraeth leol yng Nghymru pan gynhelir y bleidlais ar neu ar ôl 5 Ebrill 2021.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

(a)ystyr “Gorchymyn 2007” yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007(7),

(b)ystyr “Deddf 1983” yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, ac

(c)ystyr “Deddf 2000” yw Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

RHAN 2Eithriadau cyffredinol newydd rhag y diffiniad o dreuliau etholiad: etholiadau Senedd Cymru

Diwygio Gorchymyn 2007

2.  Mae Gorchymyn 2007 wedi ei ddiwygio yn unol ag erthygl 3.

3.  Yn Rhan 2 o Atodlen 7 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (Eithriadau cyffredinol) ar ôl paragraff 13 mewnosoder y canlynol—

13A.(1) Any matter that is reasonably attributable to the candidate’s disability, to the extent that the expenses in respect of the matter are reasonably incurred.

(2) In this paragraph “disability”, has the same meaning as in section 6 of the Equality Act 2010(8).

13B.  Expenses incurred in respect of, or in consequence of, the translation of anything from Welsh into English or from English into Welsh.

RHAN 3Eithriadau cyffredinol newydd rhag y diffiniad o dreuliau etholiad: etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru

Diwygio Deddf 1983

4.  Mae Deddf 1983 wedi ei diwygio yn unol ag erthygl 5.

5.  Yn Rhan 2 o Atodlen 4A i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (treuliau etholiad: eithriadau cyffredinol)—

(a)ym mharagraff 7A hepgorer is-baragraff (3);

(b)ar ôl paragraff 8 mewnosoder y canlynol—

8A.  In relation to a local government election in Wales, expenses incurred in respect of, or in consequence of, the translation of anything from Welsh into English or from English into Welsh.

Rhan 4Eithriadau cyffredinol newydd rhag y diffiniad o wariant ymgyrchu: etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru

Diwygio Deddf 2000

6.  Mae Deddf 2000 wedi ei diwygio yn unol ag erthygl 7.

7.  Yn Rhan 1 o Atodlen 8 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (eithriadau)—

(a)ym mharagraff 2(1)(d) ar ddiwedd yr is-baragraff, hepgorer y gair “or”;

(b)ym mharagraff 2(1)(e) ar ddiwedd yr is-baragraff, hepgorer y gair “him.” a mewnosoder “him; or”;

(c)ar ôl paragraff 2(1)(e) mewnosoder y canlynol—

(f)any expenses incurred in respect of a Senedd Cymru election or a local government election in Wales:

(i)relating to any matter that is reasonably attributable to the candidate’s disability, to the extent that the expenses in respect of the matter are reasonably incurred; and

(ii)in respect of, or in consequence of, the translation of anything from Welsh into English or from English into Welsh.

(d)ar ôl paragraff 2(2) mewnosoder y canlynol—

(3) In relation to sub-paragraph 2(1)(f)(i) “disability”, has the same meaning as in section 6 of the Equality Act 2010.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

19 Tachwedd 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (“Gorchymyn 2007”) sy’n cynnwys darpariaethau mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (“Deddf 1983”) sy’n cynnwys darpariaethau mewn perthynas ag etholiadau llywodraeth leol a Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (“Deddf 2000”) sy’n cynnwys darpariaethau mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol.

Gwnaed Gorchymyn 2007 a gorchmynion diwygio dilynol gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ond trosglwyddwyd y pwerau galluogi i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Cymru 2017.

Mae Rhan 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 7 i Orchymyn 2007.

Mae Gorchymyn 2007 yn nodi gofynion penodol mewn perthynas â threuliau etholiad fel y diffinnir “election expenses” yn erthygl 63 o’r Gorchymyn hwnnw. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiad ar y swm a ganiateir o’r treuliau hynny, fel y nodir yn erthygl 47 o’r Gorchymyn hwnnw.

Mae Rhan 2 o Atodlen 7 i Orchymyn 2007 yn nodi rhestr o faterion sydd wedi eu heithrio (“excluded”) rhag bod yn dreuliau etholiad o fewn yr ystyr a roddir i “election expenses” yn erthygl 63 o’r Gorchymyn hwnnw. Nid yw’r materion hynny yn ddarostyngedig i’r gofynion a ddisgrifir uchod, gan gynnwys y rhai sy’n cyfyngu ar y swm o dreuliau a ganiateir.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y rhestr honno faterion o ran gwariant yr eir iddo gan neu ar ran ymgeisydd anabl sydd i’w priodoli’n rhesymol i anabledd yr ymgeisydd. Rhaid i’r gwariant hwnnw ei hun fod yn wariant yr eir iddo yn rhesymol.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn hefyd yn ychwanegu at y rhestr honno faterion o ran gwariant yr eir iddo gan neu ar ran ymgeisydd sydd i’w priodoli i gyfieithu unrhyw beth o’r Saesneg i’r Gymraeg neu o’r Gymraeg i’r Saesneg, neu sy’n deillio o ganlyniad i hynny.

Mae Rhan 3 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 4A i Ddeddf 1983.

Mae Deddf 1983 yn nodi gofynion penodol mewn perthynas â threuliau etholiad fel y diffinnir “election expenses” yn adran 90ZA o’r Ddeddf honno. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiad ar y swm a ganiateir o’r treuliau hynny, fel y nodir yn adran 76 o’r Ddeddf honno.

Mae Rhan 2 o Atodlen 4A i Ddeddf 1983 yn nodi rhestr o faterion sydd wedi eu heithrio rhag bod yn dreuliau etholiad o fewn yr ystyr a roddir i “election expenses” yn adran 90ZA o’r Ddeddf honno. Nid yw’r materion hynny yn ddarostyngedig i’r gofynion a nodir uchod, gan gynnwys y rhai sy’n cyfyngu ar y swm o dreuliau a ganiateir.

Mae erthygl 5 o’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y rhestr honno faterion o ran gwariant yr eir iddo gan neu ar ran ymgeisydd anabl sydd i’w priodoli’n rhesymol i anabledd yr ymgeisydd. Rhaid i’r gwariant hwnnw ei hun fod yn wariant yr eir iddo yn rhesymol.

Mae erthygl 5 o’r Gorchymyn hwn hefyd yn ychwanegu at y rhestr honno faterion o ran gwariant yr eir iddo gan neu ar ran ymgeisydd sydd i’w priodoli i gyfieithu unrhyw beth o’r Saesneg i’r Gymraeg neu o’r Gymraeg i’r Saesneg, neu sy’n deillio o ganlyniad i hynny.

Mae Rhan 4 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 8 i Ddeddf 2000 fel y mae’n gymwys i ymgeiswyr plaid yn etholiadau’r Senedd ac mewn etholiadau llywodraeth leol.

Mae Deddf 2000 yn nodi gofynion penodol mewn perthynas â gwariant ymgyrchu fel y diffinnir “campaign expenditure” yn adran 72 o’r Ddeddf honno. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiad ar y swm a ganiateir o’r treuliau hynny, fel y nodir yn adran 79 o’r Ddeddf honno.

Mae Rhan 1 o Atodlen 8 i Ddeddf 2000 yn nodi rhestr o faterion sydd wedi eu heithrio rhag bod yn wariant ymgyrchu o fewn yr ystyr a roddir i “campaign expenditure” yn adran 72 o’r Ddeddf honno. Nid yw’r materion hynny yn ddarostyngedig i’r gofynion a nodir uchod, gan gynnwys y rhai sy’n cyfyngu ar y swm o wariant ymgyrchu a ganiateir.

Mae erthygl 7 o’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y rhestr honno faterion o ran gwariant yr eir iddo gan neu ar ran ymgeisydd anabl sydd i’w priodoli’n rhesymol i anabledd yr ymgeisydd. Rhaid i’r gwariant hwnnw ei hun fod yn wariant yr eir iddo yn rhesymol.

Mae erthygl 7 o’r Gorchymyn hwn hefyd yn ychwanegu at y rhestr honno faterion o ran gwariant yr eir iddo gan neu ar ran ymgeisydd sydd i’w priodoli i gyfieithu unrhyw beth o’r Saesneg i’r Gymraeg neu o’r Gymraeg i’r Saesneg, neu sy’n deillio o ganlyniad i hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn gan ei fod yn gweithredu diwygiadau technegol arferol nad ydynt yn cael unrhyw effaith, neu nad ydynt yn cael unrhyw effaith sylweddol, ar y sector preifat, y sector gwirfoddol na’r sector cyhoeddus.

(1)

2006 p. 32. Amnewidiwyd adran 13 gan adran 5(1) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) ac fe’i diwygiwyd wedi hynny gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1).

(2)

1983 p. 2. Mewnosodwyd Atodlen 4A gan adran 27(1) a (5) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (p. 22).

(4)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Weinidogion Cymru gan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644).

(5)

Mae’r cyfeiriad at ddau Dŷ Senedd y Deyrnas Unedig ym mharagraff 15(2) o Ran 3 o Atodlen 4A i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 i’w ddarllen fel cyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd paragraff 9(2)(b) o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Ailenwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd Cymru yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1).

(6)

Mae’r cyfeiriad at ddau Dŷ Senedd y Deyrnas Unedig yn adran 156(4) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 i’w ddarllen fel cyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd paragraff 9(2)(b) o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Ailenwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd Cymru yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1).