xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gofynion sifftio wedi eu bodloni
16 Tachwedd 2020
Gwnaed
19 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
23rd Tachwedd 2020
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae gofynion paragraff 4(a) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â’r gofyniad i ymgynghori mewn amgylchiadau penodol) a pharagraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Senedd Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol a Chynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
2.—(1) Mae Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5(11)(a)(ii), yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.
(3) Yn rheoliad 6(16)(a), yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5(2)—
(a)yn is-baragraff (a), yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “y diwrnod ymadael”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.
(3) Yn rheoliad 6—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “y diwrnod ymadael”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
19 Tachwedd 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019. Maent yn diwygio cyfeiriadau at y diwrnod ymadael fel eu bod yn cyfeirio yn lle hynny at ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir y bydd unrhyw effaith, neu unrhyw effaith sylweddol, ar y sector preifat na’r sector gwirfoddol.
2018 p. 16. Gweler adran 20(1) o’r Ddeddf honno am y diffiniad o “devolved authority”.