xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019. Maent yn diwygio cyfeiriadau at y diwrnod ymadael fel eu bod yn cyfeirio yn lle hynny at ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir y bydd unrhyw effaith, neu unrhyw effaith sylweddol, ar y sector preifat na’r sector gwirfoddol.