NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau Gweinidogion Cymru ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Yn benodol, mae’r rheoliadau hyn yn gwneud addasiadau i Reoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/414 (Cy. 96)) (“Rheoliadau 2019”).
Mae Rheoliadau 2019, a ddaw i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn gwneud addasiadau i Fesur Gwastraff (Cymru) 2010 (mccc 8), Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1490 (Cy. 155)), Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1806 (Cy. 138)) a Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1014 (Cy. 152).
O ganlyniad i weithredu deddfwriaeth yr UE ers i Reoliadau 2019 gael eu gwneud, gan gynnwys diwygiadau i amryw o Gyfarwyddebau’r UE a wnaed o dan Becyn Economi Gylchol yr UE, nid yw’r darpariaethau cywiro a wnaed gan Reoliadau 2019 yn mynd i’r afael yn llawn mwyach â’r diffygion yng ngweithrediad cyfraith yr UE a ddargedwir a fydd yn codi o ganlyniad i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ac y bwriadwyd iddynt eu cywiro.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn, sy’n cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 2019, er mwyn sicrhau, pan ddeuant i rym, y bydd yr offerynnau y maent yn eu diwygio yn gweithredu’n effeithiol ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Mae rheoliad 3 yn dirymu mân ddarpariaethau penodol yn Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 a fydd yn peidio â gweithredu’n effeithiol ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.