xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
19. Rhaid i gais am gofrestru yn unol ag Erthygl 66(1) [F1o’r Rheoliad Iechyd Planhigion] sydd i’w gyflwyno i awdurdod priodol gael ei gyflwyno yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 19 wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 19 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
20.—(1) Rhaid i’r ceisiadau a ganlyn gael eu gwneud i’r awdurdod priodol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol—
(a)cais am awdurdodiad dros dro i ganiatáu gweithgaredd perthnasol at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dethol neu fridio amrywogaethau;
(b)cais am awdurdodiad y cyfeirir ato yn y darpariaethau a ganlyn yn [F2y Rheoliad Iechyd Planhigion] —
(i)Erthygl 64(2),
(ii)Erthygl 89(1), neu
(iii)Erthygl 98(1);
(c)cais am ddyroddi tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio [F3neu] tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio F4....
(2) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “gweithgaredd perthnasol” yw gweithgaredd a fyddai fel arall wedi ei wahardd o dan [F5y Rheoliad Iechyd Planhigion] F6... neu [F7reol iechyd planhigion arall] ac sy’n golygu—
cyflwyno pla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall i Gymru,
symud pla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall yng Nghymru,
dal pla planhigion a reolir neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall ar fangre yng Nghymru, neu
lluosogi pla planhigion ar fangre yng Nghymru.
Diwygiadau Testunol
F2Gair yn rhl. 20(1)(b) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(3)(a)(i)
F3Gair yn rhl. 20(1)(c) wedi ei amnewid ar gyfer comma (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(3)(a)(ii)(aa)
F4Geiriau yn rhl. 20(1)(c) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(3)(a)(ii)(bb)
F5Gair yn rhl. 20(2) wedi ei rhodder (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(3)(b)(i)
F6Geiriau yn rhl. 20(2) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(3)(b)(ii)
F7Gair yn rhl. 20(2) wedi ei rhodder (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(3)(b)(iii)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 20 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
21.—[F8(1) Caiff yr awdurdod priodol roi awdurdodiad i ganiatáu—
(a)cyflawni unrhyw weithgaredd a bennir mewn rhanddirymiad iechyd planhigion,
(b)cyflwyno pla planhigion cwarantin posibl i Gymru, symud pla planhigion cwarantin posibl o fewn Cymru, neu ddal neu luosogi pla planhigion cwarantin posibl yng Nghymru, at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis neu fridio amrywogaethau, neu
(c)cyflawni unrhyw weithgaredd arall y mae cymeradwyaeth yr awdurdod priodol yn ofynnol ar ei gyfer o dan [F9, neu yn rhinwedd,] [F10y Rheoliad Iechyd Planhigion], y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol [F11, unrhyw reoliadau a wneir o dan y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol,] neu’r Rheoliadau hyn.]
(2) Rhaid i gais am unrhyw awdurdodiad o’r fath gael ei wneud i’r awdurdod priodol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.
[F12(3) Ym mharagraff (1)—
ystyr “pla planhigion cwarantin posibl” (“potential quarantine plant pest”) yw pla planhigion nad yw’n bla cwarantin [F13Prydain Fawr neu’n bla cwarantin Prydain Fawr dros dro], ond sydd, ym marn yr awdurdod priodol, yn bodloni’r meini prawf a nodir yn Is-adran 1 o Adran 3 o Atodiad 1 i’r Rheoliad hwnnw neu y gallai fod yn bodloni’r meini prawf yn Is-adran 2 o’r Adran honno;
ystyr “rhanddirymiad iechyd planhigion” (“plant health derogation”) yw—
Diwygiadau Testunol
F8Rhl. 21(1) wedi ei amnewid (13.11.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1134), rhlau. 1, 2(5)(a)
F9Geiriau yn rhl. 21(1)(c) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(4)(a)(i)
F10Gair yn rhl. 21(1)(c) wedi ei rhodder (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(4)(a)(ii)
F11Geiriau yn rhl. 21(1)(c) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(4)(a)(iii)
F12Rhl. 21(3) wedi ei amnewid (13.11.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1134), rhlau. 1, 2(5)(b)
F13Geiriau yn rhl. 21(3) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(4)(b)(ii)
F14Gair yn rhl. 21(3) wedi ei rhodder (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(4)(b)(i)(aa)
F15Geiriau yn rhl. 21(3) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(4)(b)(i)(bb)
F16Gair yn rhl. 21(3) wedi ei amnewid (1.1.2024) gan Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1332), rhlau. 1(2), 24(2)
F17Geiriau yn rhl. 21(3) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(4)(b)(i)(cc)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 21 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
22.—(1) Rhaid i awdurdodiad a roddir gan awdurdod priodol at ddibenion [F18y Rheoliad Iechyd Planhigion] [F19neu] y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol [F20neu at ddibenion y Rheoliadau hyn, neu oddi tanynt,] fod mewn ysgrifen a chaniateir iddo gael ei roi—
(a)o dan amodau;
(b)am gyfnod amhenodol ynteu am gyfnod penodol.
(2) Caiff awdurdodiad a roddir gan awdurdod priodol ganiatáu i’r awdurdod priodol addasu’r awdurdodiad, ei atal dros dro neu ei ddirymu unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig.
Diwygiadau Testunol
F18Geiriau yn rhl. 22(1) wedi ei rhodder (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(5)(a)
F19Gair yn rhl. 22(1) wedi ei amnewid ar gyfer comma (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(5)(b)
F20Geiriau yn rhl. 22(1) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(5)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 22 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1