xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CCofrestru, awdurdodiadau a thystysgrifau ynglŷn ag iechyd planhigion

Awdurdodiadau a roddir gan awdurdod priodolLL+C

22.—(1Rhaid i awdurdodiad a roddir gan awdurdod priodol at ddibenion [F1y Rheoliad Iechyd Planhigion] [F2neu] y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol [F3neu at ddibenion y Rheoliadau hyn, neu oddi tanynt,] fod mewn ysgrifen a chaniateir iddo gael ei roi—

(a)o dan amodau;

(b)am gyfnod amhenodol ynteu am gyfnod penodol.

(2Caiff awdurdodiad a roddir gan awdurdod priodol ganiatáu i’r awdurdod priodol addasu’r awdurdodiad, ei atal dros dro neu ei ddirymu unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 22 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1