- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, Adran 28.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
28.—(1) Caiff arolygydd iechyd planhigion fynd i mewn i unrhyw fangre ar adeg resymol at ddiben—
(a)cyflawni rheolaethau swyddogol i ddilysu—
(i)bod gweithredwr yn cydymffurfio â’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol,
(ii)bod gweithredwr proffesiynol yn cydymffurfio [F1â’r Rheoliad Iechyd Planhigion],
(iii)bod person yn cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, F2...
(iv)bod unrhyw blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun un [F3o’r rheolau iechyd planhigion yn cydymffurfio â’r rheol honno]; [F4neu]
[F5(v)bod gweithredwr awdurdodedig, gweithredwr proffesiynol neu weithredwr cofrestredig yn cydymffurfio â Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023]
(b)cyflawni gweithgareddau swyddogol eraill sydd i’w cyflawni gan yr awdurdod priodol yn unol â’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, y Rheoliad Iechyd Planhigion [F6, Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023] neu’r Rheoliadau hyn;
(c)gorfodi’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, y Rheoliad Iechyd Planhigion [F7, Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023] neu’r Rheoliadau hyn;
(d)dilysu gwybodaeth a roddwyd gan berson mewn cysylltiad â chais am gofrestriad neu am awdurdodiad neu drwydded a roddwyd, neu sydd i’w rhoi, o dan y Rheoliadau hyn;
(e)canfod a ydys yn cydymffurfio neu a gydymffurfiwyd ag amod mewn awdurdodiad neu drwydded a roddwyd gan awdurdod priodol o dan y Rheoliadau hyn neu at ddiben [F8y Rheoliad Iechyd Planhigion] neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
(2) Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i arolygydd iechyd planhigion ddangos tystiolaeth o’i awdurdod cyn mynd i mewn i unrhyw fangre at y dibenion a bennir ym mharagraff (1).
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod 24 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd.
(4) Caiff arolygydd iechyd planhigion sy’n mynd i mewn i fangre at ddiben a bennir ym mharagraff (1) neu o dan warant a ddyroddir gan ynad heddwch—
(a)archwilio, marcio neu dynnu ffotograff o unrhyw ran o’r fangre, unrhyw wrthrych yn y fangre neu unrhyw beth sydd wedi ei atodi i’r fangre neu fel arall yn ffurfio rhan ohoni;
(b)yn achos mangre sy’n cael ei defnyddio i weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren, archwilio neu brofi unrhyw gyfleuster trin, peiriannau, offer neu gyfarpar arall a ddefnyddir i weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren neu arsylwi a monitro’r broses o weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren;
(c)cymryd samplau—
(i)o unrhyw bla planhigion neu oddi arno,
(ii)o unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall neu oddi arnynt, neu
(iii)o unrhyw gynhwysydd, pecyn neu wrthrych sydd wedi bod neu a allai fod wedi bod mewn cysylltiad â phla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall neu oddi ar y rhain;
(d)agor unrhyw gynhwysydd neu becyn neu ei gwneud yn ofynnol i berchennog neu berson sydd â gofal am unrhyw gynhwysydd neu becyn agor y cynhwysydd neu’r pecyn;
(e)arolygu neu wneud copïau o unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cânt eu dal) sy’n ymwneud â chynhyrchu unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall, neu ag unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud â hwy.
(5) Caiff arolygydd iechyd planhigion ddinistrio neu waredu fel arall unrhyw sampl a gymerir o dan y rheoliad hwn pan na fydd angen y sampl mwyach.
(6) Caiff arolygydd iechyd planhigion—
[F9(a)dod ag unrhyw bersonau y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol; a]
(b)dod ag unrhyw offer a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol.
F10(7) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(8) Caiff person sy’n dod gydag arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff (6)(a)F11...—
(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb arolygydd iechyd planhigion,
(b)dod ag unrhyw offer neu gerbydau i’r fangre y mae’r person o’r farn eu bod yn angenrheidiol, ac
(c)cyflawni gwaith yn y fangre mewn modd a gyfarwyddir gan arolygydd iechyd planhigion.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 28(1)(a)(ii) wedi eu hamnewid (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(3)(a)(i)(aa)
F2Gair yn rhl. 28(1)(a)(iii) wedi ei hepgor (1.10.2023) yn rhinwedd The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(3)(a)(i)
F3Geiriau yn rhl. 28(1)(a)(iv) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(3)(a)(i)(bb)
F4Gair yn rhl. 28(1)(a)(iv) wedi ei fewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(3)(a)(ii)
F5Rhl. 28(1)(a)(v) wedi ei fewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(3)(a)(iii)
F6Geiriau yn rhl. 28(1)(b) wedi eu mewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(3)(b)
F7Geiriau yn rhl. 28(1)(c) wedi eu mewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(3)(c)
F8Gair yn rhl. 28(1)(e) wedi eu hamnewid (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(3)(a)(ii)
F9Rhl. 28(6)(a) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(3)(b)
F10Rhl. 28(7) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(3)(c)
F11Gair yn rhl. 28(8) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(3)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 28 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: