Methu â chydymffurfio â hysbysiad
31.—(1) Os bydd person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir i’r person hwnnw o dan y Rheoliadau hyn, caiff arolygydd iechyd planhigion fynd i unrhyw fangre yr effeithir arni ar bob adeg resymol i gymryd neu beri cymryd unrhyw gamau y mae’r arolygydd iechyd planhigion o’r farn eu bod yn angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r hysbysiad neu i unioni canlyniadau’r methiant i’w cyflawni.
(2) Rhaid i arolygydd iechyd planhigion sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o’i awdurdod i weithredu, os gofynnir iddo wneud hynny.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod 24 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd.
(4) Caiff arolygydd iechyd planhigion ddod ag unrhyw bersonau eraill (gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd) gydag ef a chaiff ddod ag unrhyw offer a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol.
(5) Caiff person sy’n dod gydag arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff (4)—
(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb arolygydd iechyd planhigion,
(b)dod ag unrhyw ofer neu gerbydau i’r fangre y mae’r person o’r farn eu bod yn angenrheidiol, ac
(c)cyflawni gwaith yn y fangre mewn modd a gyfarwyddir gan arolygydd iechyd planhigion.