xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
33.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion yn gwybod, neu pan fo ganddo sail resymol dros amau, bod person wedi gosod yn anghywir, neu’n bwriadu gosod yn anghywir, y nod SRFFf 15 ar ddeunydd pecynnu pren mewn unrhyw fangre yng Nghymru.
(2) Caiff yr arolygydd iechyd planhigion ymafael mewn unrhyw stensil, templed neu eitem arall o offer y mae’n ymddangos i’r arolygydd y gellid eu defnyddio i osod y nod SRFFf 15, oddi wrth y person hwnnw neu o’r fangre honno a’u cadw.
(3) Os nad yw’r arolygydd iechyd planhigion o’r farn ei bod yn ymarferol, am y tro, i’r arolygydd ymafael mewn unrhyw eitem a’i symud ymaith, caiff yr arolygydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson yn y fangre sicrhau na chaiff yr eitem ei symud ymaith ac nad ymyrrir â’r eitem fel arall nes y gall yr arolygydd ymafael ynddi a’i symud ymaith.
(4) Rhaid i’r arolygydd iechyd planhigion wneud ymdrechion rhesymol i roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person priodol—
(a)yn nodi’r hyn yr ymafaelwyd ynddo a’r rheswm dros ymafael ynddo;
(b)yn esbonio effaith paragraffau (5) i (12).
(5) Caniateir i unrhyw eitem yr ymafaelir ynddi o dan baragraff (2) gael ei chadw gan Weinidogion Cymru am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol o dan yr holl amgylchiadau, ac yn benodol at ddibenion achos cyfreithiol mewn perthynas â throsedd a bennir yn rheoliad 38(1).
(6) Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i’r llys ynadon am fforffedu unrhyw eitem a gedwir o dan baragraff (5).
(7) Pan wneir cais o dan baragraff (6), caiff y llys orchymyn i’r eitem gael ei fforffedu os yw’r llys wedi ei fodloni—
(a)bod trosedd a bennir yn rheoliad 38(1) wedi ei chyflawni mewn cysylltiad â hi, neu
(b)ei bod wedi ei defnyddio wrth gyflawni trosedd o’r fath.
(8) Os yw’r llys yn gorchymyn i’r eitem gael ei fforffedu, caiff Gweinidogion Cymru ei gwaredu ym mha ffordd bynnag y credant ei bod yn briodol.
(9) Os nad yw’r llys yn gorchymyn i’r eitem gael ei fforffedu, rhaid iddo orchymyn i’r eitem gael ei dychwelyd i’r person priodol.
(10) Caiff Gweinidogion Cymru adennill oddi ar y person priodol yr holl gostau rhesymol yr aed iddynt gan Weinidogion Cymru at ddibenion sicrhau bod eitem yn cael ei fforffedu o dan baragraffau (6) i (8).
(11) Pan awdurdodwyd cadw unrhyw eitem o dan y rheoliad hwn, ond nad yw hynny wedi ei awdurdodi mwyach—
(a)rhaid i’r eitem gael ei dychwelyd i’r person priodol;
(b)caiff y person priodol wneud cais i’r llys ynadon am orchymyn i’r eitem gael ei dychwelyd.
(12) Pan fo’n ofynnol i’r eitem gael ei dychwelyd i’r person priodol a bod ymdrechion rhesymol wedi eu gwneud, heb lwyddiant, i ddychwelyd yr eitem i’r person hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru waredu’r eitem ym mha ffordd bynnag y credant ei bod yn briodol.
(13) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “person priodol” yw—
yn achos eitem yr ymafaelwyd ynddi oddi wrth berson, y person yr ymafaelwyd yn yr eitem oddi wrtho;
yn achos eitem yr ymafaelwyd ynddi o fangre, y meddiannydd neu unrhyw berson arall sydd â gofal am y fangre;
yn achos eitem yr ymafaelwyd ynddi oddi wrth berson neu o fangre nad yw’n perthyn i berson sy’n dod o fewn paragraff (a) neu (b), y person y mae’n perthyn iddo ac sy’n haeru perchnogaeth drosti.
(14) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn effeithio ar bwerau arolygydd iechyd planhigion o dan reoliad 32.