Datgelu gwybodaeth i awdurdodau cymwys eraill
35.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddatgelu gwybodaeth i unrhyw awdurdod cymwys arall mewn rhan arall o diriogaeth yr Undeb at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i ddatgelu gwybodaeth neu unrhyw ofyniad arall sydd arnynt i wneud hynny.