Darpariaethau amrywiol ynglŷn â hysbysiadauLL+C
36.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw hysbysiad a roddir gan arolygydd iechyd planhigion o dan y Rheoliadau hyn heblaw hysbysiad a roddir o dan reoliad 33(4) [F1neu Atodlen 4A].
(2) Caiff yr hysbysiad—
(a)pennu—
(i)un neu ragor o ofynion neu ofynion amgen;
(ii)ym mha fodd ac ym mha gyfnod y mae’n rhaid cyflawni unrhyw ofyniad neu amod a bennir yn yr hysbysiad, neu
(b)ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog neu unrhyw berson arall y mae’n ymddangos ei fod â gofal am y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi—
(i)hysbysu’r awdurdod priodol am unrhyw newid ym meddiannaeth y fangre, dyddiad y newid ac enw’r meddiannydd newydd, a
(ii)rhoi gwybod i feddiannydd newydd y fangre am gynnwys yr hysbysiad.
(3) Rhaid i unrhyw waith i ddinistrio, gwaredu, ailallforio neu drin planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall neu bla planhigion y mae’n ofynnol ei wneud o dan yr hysbysiad gael ei wneud neu rhaid trefnu iddo gael ei wneud, er boddhad arolygydd iechyd planhigion gan y person y mae’r hysbysiad wedi ei gyflwyno iddo o’r man a bennir yn yr hysbysiad neu yn y man hwnnw.
(4) Caiff arolygydd iechyd planhigion ddiwygio’r hysbysiad neu ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad pellach.
(5) Caiff yr hysbysiad ddiffinio hyd a lled y fangre y cyfeirir ati yn yr hysbysiad drwy gyfeirio at fap neu blan neu fel arall.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 36(1) wedi eu mewnosod (15.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1303), rhlau. 1, 2(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 36 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1