xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
41. Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw, at ddibenion sicrhau awdurdodiad neu drwydded neu at ddibenion sicrhau y dyroddir pasbort planhigion [F1y DU][F2, label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon] neu dystysgrif—
(a)yn fwriadol neu’n ddi-hid yn gwneud datganiad neu sylwadau sy’n ffug o ran manylyn perthnasol,
(b)yn fwriadol neu’n ddi-hid yn darparu dogfen neu wybodaeth sy’n ffug o ran manylyn perthnasol, neu
(c)yn fwriadol yn methu â datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 41 wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 12(3)
F2Geiriau yn rhl. 41 wedi eu mewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(7)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 41 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1