xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 11LL+CTroseddau ynglŷn â deddfwriaeth iechyd planhigion

Defnyddio pasbortau planhigion [F1, labeli iechyd planhigion Gogledd Iwerddon] F2... neu dystysgrifau yn amhriodolLL+C

42.—(1Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—

(a)yn dyroddi pasbort planhigion [F3y DU] [F4, label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon] neu dystysgrif yn anonest,

(b)yn newid pasbort planhigion [F4, label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon] F5...neu dystysgrif yn anonest, neu

(c)yn ailddefnyddio pasbort planhigion [F4, label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon] F6... neu dystysgrif yn anonest.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “tystysgrif” yw tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio, tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio neu dystysgrif cyn-allforio.