Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/03/2021.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, Adran 47.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
47.—(1) Rhaid i achos am drosedd o dan y Rhan hon [F1neu baragraff 22 o Atodlen 4A (methu â chydymffurfio ag hysbysiad stop)] yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig gael ei ddwyn yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(2) At ddibenion achosion o’r fath—
(a)mae rheolau’r llys ynglŷn â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforedig, a
(b)mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (gweithdrefn ynglŷn â chyhuddiad o drosedd yn erbyn corfforaeth)(1) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (corfforaethau)(2) yn gymwys mewn perthynas â’r bartneriaeth neu’r gymdeithas fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.
(3) Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu ar gymdeithas anghorfforedig wedi ei chollfarnu o drosedd o dan y Rhan hon i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(4) Os profir bod trosedd o dan y Rhan hon a gyflawnwyd gan bartneriaeth—
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner,
mae’r partner, yn ogystal â’r bartneriaeth, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(5) Ym mharagraff (4), mae “partner” yn cynnwys person sy’n honni ei fod yn gweithredu fel partner.
(6) Os profir bod trosedd o dan y Rhan hon a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig (heblaw partneriaeth)—
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y gymdeithas, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath,
mae’r swyddog, yn ogystal â’r gymdeithas, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(7) Ym mharagraff (6), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig, yw—
(a)un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o’i chorff llywodraethu, neu
(b)person sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn swyddogaeth o’r fath.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 47(1) wedi eu mewnosod (15.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1303), rhlau. 1, 2(7)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 47 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
1925 p. 86; diddymwyd adran 33 yn rhannol gan Atodlen 6 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952 (p. 55), ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 19 o Atodlen 8 i Ddeddf Llysoedd 1971 (p. 23) a pharagraff 71 o Atodlen 8, ac Atodlen 10, i Ddeddf Llysoedd 2003 (p. 39) (yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn O.S. 2004/2066).
1980 p. 43; diwygiwyd Atodlen 3 gan Atodlen 13 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p. 53) a pharagraff 51 o Atodlen 3, a Rhan 4 o Atodlen 37 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: