xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
53.—(1) Mae unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan Orchymyn 2005, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pecynnu Pren) (Coedwigaeth) 2006(1) neu Orchymyn 2018 ac sy’n cael effaith ar y dyddiad cychwyn—
(a)yn parhau mewn grym ac yn parhau i gael effaith fel pe bai wedi ei roi o dan y Rheoliadau hyn at ddiben cyfatebol ar y dyddiad y rhoddwyd ef o dan Orchymyn 2005, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pecynnu Pren) (Coedwigaeth) 2006 neu Orchymyn 2018 (yn ôl y digwydd), a
(b)i’w ddarllen gydag unrhyw addasiadau sy’n angenrheidiol er mwyn iddo wneud hynny.
(2) Ym mharagraff (1), mae’r cyfeiriad at unrhyw hysbysiad o dan Orchymyn 2005, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pecynnu Pren) (Coedwigaeth) 2006 neu Orchymyn 2018 yn cynnwys unrhyw gymeradwyaeth swyddogol a roddwyd at ddibenion yr hysbysiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 53 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
O.S. 2006/2695, a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/755 (Cy. 90) ac O.S. 2019/734.