- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, Paragraff 19.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
19.—(1) Os yw presenoldeb Pydredd cylch tatws yn cael ei gadarnhau mewn sampl o ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn dilyn profion swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 18(2)(a) neu is-baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—
(a)bod y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y llwyth neu’r lot ac unrhyw wrthrych y cymerwyd y sampl ohono a, pan fo’n briodol, y man cynhyrchu a’r cae y cynaeafwyd y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ohonynt, yn cael eu dynodi yn halogedig gan arolygydd iechyd planhigion;
(b)bod arolygydd iechyd planhigion yn canfod graddau’r halogi tebygol drwy gysylltiad cyn neu ar ôl cynaeafu neu drwy unrhyw gyswllt cynhyrchu ag unrhyw beth a ddynodir yn halogedig o dan baragraff (a), gan [F1roi sylw i’r ffactorau a ganlyn— ;
(i)y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a dyfir yn y man cynhyrchu halogedig;
(ii)y mannau cynhyrchu sydd ag unrhyw gysylltiad cynhyrchu â’r deunydd hwnnw sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, gan gynnwys y rhai sy’n rhannu cyfarpar a chyfleusterau cynhyrchu yn uniongyrchol neu drwy gontractwr sy’n gyffredin rhyngddynt;
(iii)cynhyrchu deunydd arall sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn y man cynhyrchu halogedig, neu bresenoldeb deunydd o’r fath yn y man hwnnw;
(iv)y mangreoedd sy’n trafod tatws o’r man cynhyrchu halogedig a’r mannau cynhyrchu a grybwyllir yn is-baragraff (ii);
(v)unrhyw wrthrych a allai fod wedi dod i gysylltiad â’r deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;
(vi)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a gaiff ei storio mewn unrhyw wrthrych cyn iddo gael ei ddiheintio, neu ddeunydd o’r fath sydd wedi dod i gysylltiad ag unrhyw wrthrych o’r fath;
(vii)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n perthyn fel chwaer neu riant drwy glonio i’r deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a mannau cynhyrchu’r deunydd hwnnw;]
(c)bod parth yn cael ei ddarnodi gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad a wneir o dan baragraff (a), gan ystyried [F2agosrwydd mannau cynhyrchu eraill sy’n tyfu tatws neu blanhigion cynhaliol eraill a chynhyrchu a defnyddio stociau tatws hadyd ar y cyd].
[F3(1A) Wrth wneud dynodiad neu benderfyniad o dan is-baragraff (1), rhaid i arolygydd roi sylw i egwyddorion gwyddonol cadarn, bioleg Pydredd cylch tatws a systemau cynhyrchu, marchnata a phrosesu perthnasol.]
(2) Pan fo deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau wedi ei ddynodi yn halogedig o dan is-baragraff (1)(a), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cynhelir profion ar stociau tatws sy’n perthyn drwy glonio i’r deunydd hwnnw sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn y dull a bennir ym mharagraff 18(2)(a) er mwyn canfod prif ffynhonnell debygol yr haint, a graddau’r halogi tebygol.
(3) Rhaid cynnal unrhyw brofion o’r fath ar faint bynnag o ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ag sy’n angenrheidiol i ganfod prif ffynhonnell debygol yr haint, a graddau’r halogi tebygol.
(4) Rhaid i unrhyw ddynodiad gan arolygydd iechyd planhigion o dan y paragraff hwn hon gael ei wneud drwy hysbysiad.
(5) Pan fo arolygydd iechyd planhigion yn canfod o dan is-baragraff (1)(b) fod unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, neu unrhyw wrthrych, yn halogedig o bosibl, rhaid i’r arolygydd ddynodi drwy hysbysiad fod y deunydd hwnnw neu’r gwrthrych hwnnw yn halogedig o bosibl.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 2 para. 19(1)(b) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 18(4)(a)
F2Geiriau yn Atod. 2 para. 19(1)(c) wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 18(4)(b)
F3Atod. 2 para. 19(1A) wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 18(4)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: