Mesurau at ddibenion Erthygl 7 o Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EC
31.—(1) Yn y Rhan hon, ystyr “tatws o’r Aifft” yw unrhyw gloron Solanum tuberosum L., yn tarddu o’r Aifft a gyflwynir i diriogaeth yr Undeb o dan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EC.
(2) Ni chaiff unrhyw weithredwr proffesiynol—
(a)symud unrhyw datws o’r Aifft yng Nghymru oni bai eu bod wedi eu labelu i ddangos eu bod yn tarddu o’r Aifft;
(b)prosesu, paratoi, golchi neu becynnu unrhyw datws o’r Aifft mewn mangre yng Nghymru heblaw mewn mangre y mae Gweinidogion Cymru wedi ei chymeradwyo mewn ysgrifen at y diben hwnnw.
(3) Nid yw is-baragraff (2)(b) yn gymwys i becynnu neu baratoi unrhyw datws o’r Aifft mewn siop, bwyty, ffreutur, clwb, tŷ tafarn, ysgol, ysbyty, neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) i’w ddanfon at y defnyddiwr terfynol.