Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/03/2021.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, Paragraff 8.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
8.— [F1(1)] Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—
(a)bod ymchwiliadau swyddogol yn cael eu cynnal yn unol [F2â’r Rhan hon] ar gyfer presenoldeb Llyngyr tatws mewn caeau y bwriedir plannu neu storio ynddynt datws hadyd neu ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu planhigion i’w plannu, a
(b)bod arolygon swyddogol yn cael eu cynnal yn unol [F3â’r Rhan hon] ar gyfer presenoldeb Llyngyr tatws mewn caeau a ddefnyddir i gynhyrchu tatws, heblaw’r rhai a fwriedir ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd.
[F4(2) Rhaid i ymchwiliad swyddogol i gae at ddibenion paragraff 8(1)(a) gael ei gynnal—
(a)cyn y plannu neu storio arfaethedig, a
(b)oni bai bod tystiolaeth ddogfennol o ymchwiliad swyddogol blaenorol sy’n cadarnhau na chanfuwyd unrhyw Lyngyr tatws yn ystod yr ymchwiliad ac nad oedd tatws na phlanhigion cynhaliol yn bresennol ar adeg yr ymchwiliad hwnnw ac nad ydynt wedi eu tyfu yn y cae ers yr ymchwiliad hwnnw, rhwng cynaeafu’r cnwd diwethaf yn y cae a’r gwaith arfaethedig o blannu tatws hadyd neu ddeunydd arall sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.
(3) Yn achos cae lle y mae tatws hadyd neu blanhigion cynhaliol, y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, i’w plannu neu eu storio, rhaid i ymchwiliad swyddogol at ddibenion paragraff 8(1)(a) gynnwys samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu pridd briodol a chynnal profion swyddogol ar y samplau.
(4) Yn achos cae lle y mae bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, i’w plannu neu eu storio, rhaid i ymchwiliad swyddogol at ddibenion paragraff 8(1)(a) gynnwys—
(a)samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu pridd briodol a chynnal profion swyddogol ar y samplau, neu
(b)gwirio, ar sail canlyniadau profion priodol a gymeradwywyd yn swyddogol, na fu Llyngyr tatws yn bresennol yn y cae yn ystod y 12 mlynedd flaenorol neu wirio, ar sail hanes cnydio hysbys y cae, na thyfwyd unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol yn y cae yn ystod y 12 mlynedd flaenorol.
(5) Rhaid i arolwg swyddogol at ddibenion paragraff 8(1)(b) gynnwys samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu briodol ar o leiaf 0.5% o’r erwau a ddefnyddir i gynhyrchu tatws yn y flwyddyn berthnasol a chynnal profion swyddogol ar y samplau.
(6) Nid yw paragraff 8(1)(a) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi cadarnhau nad oes unrhyw risg o ledaenu Llyngyr tatws ac—
(a)bod unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y bwriedir ei ddefnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu i’w ddefnyddio o fewn yr un man cynhyrchu sydd wedi ei leoli o fewn ardal sydd wedi ei diffinio yn swyddogol,
(b)bod tatws hadyd i’w defnyddio o fewn yr un man cynhyrchu sydd wedi ei leoli o fewn ardal sydd wedi ei diffinio yn swyddogol, neu
(c)yn achos unrhyw fylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, bod y planhigion a gynaeafir i fod yn destun mesurau a gymeradwywyd yn swyddogol.
(7) At ddibenion is-baragraffau (3) i (5)—
(a)“y gyfradd samplu briodol”, mewn perthynas â chae, yw’r gyfradd samplu ofynnol a bennir yn y tabl a ganlyn—
Is-baragraff | Cae | Y Gyfradd | |
---|---|---|---|
(3) a (4) | Cae ≤ 8 hectar | 1,500 ml o bridd fesul hectar a gesglir o 100 craidd/hectar o leiaf | |
Cae > 8 hectar | Yr 8 hectar cyntaf | 1,500 ml o bridd fesul hectar | |
Pob hectar ychwanegol | 400 ml o bridd fesul hectar | ||
Cae ≤ 4 hectar sy’n bodloni un maen prawf o leiaf ym mharagraff (b) | 400 ml o bridd fesul hectar | ||
Cae > 4 hectar sy’n bodloni un maen prawf o leiaf ym mharagraff (b) | Y 4 hectar cyntaf | 400 ml o bridd fesul hectar | |
Pob hectar ychwanegol | 200 ml o bridd fesul hectar | ||
(5) | Cae ≤ 4 hectar | Unrhyw un neu ragor o’r cyfraddau a ganlyn: —400 ml o bridd fesul hectar —gwaith samplu wedi ei dargedu ar o leiaf 400 ml o bridd yn dilyn cynnal archwiliad gweledol o wreiddiau sydd â symptomau gweledol, neu —pan fo’n bosibl olrhain y tatws a gynaeafwyd i’r cae lle y’u tyfwyd, 400 ml o bridd sy’n gysylltiedig â’r tatws a gynaeafwyd. |
(b)y meini prawf yw—
(i)bod tystiolaeth ddogfennol yn bodoli i ddangos nad yw tatws na phlanhigion cynhaliol wedi eu tyfu yn y cae yn y chwe mlynedd cyn yr ymchwiliad swyddogol, neu nad oeddent yn bresennol yn y cae yn ystod y cyfnod hwnnw;
(ii)nad oes unrhyw Lyngyr tatws wedi eu canfod yn ystod y ddau ymchwiliad swyddogol olynol diweddaraf mewn samplau o 1,500 ml o bridd/hectar, ac nad oes unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol, ac eithrio’r rhai y mae’r ymchwiliad swyddogol yn ofynnol ar eu cyfer, wedi eu tyfu yn y cae ers y cyntaf o’r ddau ymchwiliad hynny;
(iii)nad oes unrhyw Lyngyr tatws na Llyngyr tatws heb gynnwys byw wedi eu canfod yn yr ymchwiliad swyddogol diweddaraf a oedd ar ffurf maint sampl o 1,500 ml o bridd/hectar o leiaf, ac nad oes unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol, ac eithrio’r rhai y mae’r ymchwiliad swyddogol yn ofynnol ar eu cyfer, wedi eu tyfu yn y cae ers yr ymchwiliad swyddogol diweddaraf.]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 2 para. 8(1): Atod. 2 para. 8 wedi ei ailrifo fel Atod. 2 para. 8(1) (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 17(5)
F2Geiriau yn Atod. 2 para. 8(a) wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 17(4)(a)
F3Geiriau yn Atod. 2 para. 8(b) wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 17(4)(b)
F4Atod. 2 para. 8(2)-(7) wedi ei fewnosod (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 17(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: