Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

Newidiadau dros amser i: RHAN 1

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 04/03/2021

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/12/2020.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, RHAN 1. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 1LL+C [F1Y Rheoliad Iechyd Planhigion]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 Rhn. 1 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Y Ddarpariaeth yn [F2y Rheoliad Iechyd Planhigion]Y Pwnc
Erthygl 5(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 8(1))Yn gwahardd cyflwyno pla [F3cwarantin Prydain Fawr] i [F4Brydain Fawr] , symud pla [F3cwarantin Prydain Fawr] o fewn [F4Prydain Fawr] neu ddal, lluosogi neu ryddhau pla [F3cwarantin Prydain Fawr] o fewn [F4Prydain Fawr] (1).
Erthygl 9(3) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 33(1))

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol hysbysu awdurdodau cymwys ar unwaith am unrhyw dystiolaeth a all fod ganddynt ynghylch perygl sydd ar fin digwydd:

(a)

y daw pla cwarantin [F5Prydain Fawr] neu [F6bla cwarantin Prydain Fawr dros dro] i [F7Brydain Fawr] neu i ran o [F7Brydain Fawr] lle nad yw’n bresennol eto, neu

(b)

y daw pla cwarantin [F8PFA] i’r [F9ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw].

Erthygl 14(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 16 a 33(1))

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol sy’n amau neu sy’n dod yn ymwybodol:

(a)

bod pla cwarantin [F10Prydain Fawr neu bla cwarantin Prydain Fawr dros dro] yn bresennol mewn planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sydd o dan reolaeth y gweithredwr;

(b)

bod pla cwarantin [F11PFA] yn bresennol mewn planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sydd o dan reolaeth y gweithredwr yn [F12yr ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw],

hysbysu’r awdurdod cymwys ar unwaith a chymryd camau rhagofalus i atal y pla rhag ymsefydlu a lledaenu.

Erthygl 14(3)

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol:

(a)

ymgynghori â’r awdurdod cymwys pan fo’r gweithredwr proffesiynol wedi cael cadarnhad swyddogol ynghylch presenoldeb pla cwarantin [F13Prydain Fawr] mewn planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sydd o dan reolaeth y gweithredwr, a

(b)

pan fo’n gymwys, bwrw ymlaen â’r camau sy’n ofynnol o dan Erthygl 14(4) i (7).

Erthygl 15(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 15(2), 16 a 33(1))

Yn ei gwneud yn ofynnol i berson nad yw’n weithredwr proffesiynol hysbysu’r awdurdod cymwys ar unwaith pan fydd y person yn dod yn ymwybodol o’r canlynol, neu pan fo ganddo reswm i amau’r canlynol:

(a)

presenoldeb pla cwarantin [F14Prydain Fawr];

(b)

presenoldeb pla cwarantin [F15PFA] yn [F16yr ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw].

Erthygl 32(2)Yn gwahardd cyflwyno pla cwarantin [F17PFA] i’r priod barth gwarchodedig, symud pla cwarantin [F17PFA] yn [F18yr ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw] neu’r daliad, lluosogi neu ryddhau pla cwarantin [F17PFA] yn [F18yr ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw] (2).
Erthygl 37(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 39, ac Erthygl 17 o’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol)Yn gwahardd gweithredwr proffesiynol rhag cyflwyno i [F19Brydain Fawr] bla nad yw’n bla cwarantin [F20Prydain Fawr] a reoleiddir ar blanhigion i’w plannu y caiff ei drosglwyddo drwyddynt, neu symud pla nad yw’n bla cwarantin [F20Prydain Fawr] a reoleiddir o fewn [F19Prydain Fawr] ar blanhigion i’w plannu y caiff ei drosglwyddo drwyddynt(3).
Erthygl 40(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1))Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill penodol i [F21Brydain Fawr] os ydynt yn tarddu o bob trydedd wlad neu diriogaeth neu rai penodol ohonynt(4).
Erthygl 41(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1))

Yn gwahardd:

(a)

cyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill o drydydd gwledydd oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni(5);

(b)

symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni(6).

[F22Erthygl 41(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1)) Yn gwahardd cyflwyno i Brydain Fawr blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill o drydydd gwledydd oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni.
Erthygl 41(1A) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 48(1))Yn gwahardd cyflwyno i Brydain Fawr blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill o diriogaethau Dibynnol y Goron oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni.
Erthygl 41(1B) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 48(1))Yn gwahardd symud o fewn Prydain Fawr blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni.]
Erthygl 42(2) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1))Yn gwahardd cyflwyno i [F23Brydain Fawr] blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n uchel eu risg o drydydd gwledydd(7).
Erthygl 43(1)Yn gwahardd cyflwyno i [F23Brydain Fawr] ddeunydd pecynnu pren, p’un a yw’n cael ei ddefnyddio i gludo gwrthrychau o unrhyw fath neu beidio, oni bai ei fod yn cyflawni’r gofynion penodedig neu ei fod yn destun yr esemptiadau y darperir ar eu cyfer yn SRFFf 15.
Erthygl 45(1), y trydydd paragraff (fel y’i darllenir gydag Erthygl 55)Yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau post a gweithredwyr proffesiynol sy’n ymwneud â gwerthu drwy gontractau pellter drefnu bod gwybodaeth benodol ar gael i’w cleientiaid drwy’r rhyngrwyd.
Erthygl 53(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 57 a 58)

Yn gwahardd:

(a)

cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n tarddu o drydydd gwledydd i [F24ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr];

(b)

cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n tarddu o [F25Brydain Fawr neu diriogaeth Ddibynnol y Goron i ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr] (8).

Erthygl 54(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 57 a 58)

Yn gwahardd:

(a)

cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill [F26i ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr] oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r [F27ardaloedd hynny sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr] wedi eu cyflawni;

(b)

symud planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill [F26mewn ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr] oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r [F27ardaloedd hynny sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr] wedi eu cyflawni(9).

Erthygl 59

Yn ei gwneud yn ofynnol:

(a)

i gerbydau, peiriannau neu ddeunydd pecynnu a ddefnyddir ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n symud i [F28Brydain Fawr] neu o’i mewn, neu drwy [F28Brydain Fawr], fod yn rhydd rhag plâu [F29cwarantin Prydain Fawr neu blâu cwarantin Prydain Fawr dros dro];

(b)

i gerbydau, peiriannau neu ddeunydd pecynnu a ddefnyddir ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n symud i’r [F30ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr] neu o’u mewn, neu drwy [F31ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr], fod yn rhydd rhag y plâu cwarantin [F32PFA] [F33sy’n ymwneud â’r ardaloedd hynny].

Erthygl 62(1)

Yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gyfrifol am orsaf gwarantin neu gyfleuster cyfyngu fonitro’r orsaf neu’r cyfleuster a’r cyffiniau agos, am bresenoldeb anfwriadol plâu cwarantin [F34Prydain Fawr a phlâu cwarantin Prydain Fawr dros dro].

Erthygl 62(2)

Yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gyfrifol am orsaf gwarantin neu gyfleuster cyfyngu gymryd camau priodol ar sail y cynllun wrth gefn y cyfeirir ato ym mhwynt (e) o Erthygl 61(1) ac i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau i weithredwyr proffesiynol yn Erthygl 14 pan ganfyddir neu pan amheuir presenoldeb anfwriadol pla cwarantin [F35Prydain Fawr neu bla cwarantin Prydain Fawr dros dro].

Erthygl 64(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 64(2))Yn gwahardd rhyddhau planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o orsafoedd cwarantin neu gyfleusterau cyfyngu oni bai bod hynny wedi ei awdurdodi gan yr awdurdodau cymwys.
Erthygl 66(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 65(3))Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol penodol gyflwyno cais am gofrestru i’r awdurdodau cymwys.
Erthygl 66(5) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 65(3))

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr cofrestredig, pan fo’n berthnasol:

(a)

cyflwyno diweddariad blynyddol ynghylch unrhyw newidiadau yn y data y cyfeirir ato ym mhwyntiau (d) ac (e) o Erthygl 66(2) neu yn y datganiadau y cyfeirir atynt ym mhwyntiau (b) ac (c) o Erthygl 66(2);

(b)

diweddaru’r data y cyfeirir ato ym mhwynt (a) o Erthygl 66(2) heb fod yn hwyrach na 30 diwrnod ar ôl y newid yn y data hwnnw.

Erthygl 69(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 65(3) a 69(3))Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol y cyflenwir iddo blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun y gofynion neu’r amodau penodedig gadw cofnod sy’n caniatáu i’r gweithredwr adnabod y gweithredwr proffesiynol a gyflenwodd bob uned fasnach.
Erthygl 69(2) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 69(3))Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol sy’n cyflenwi planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun y gofynion neu’r amodau penodedig gadw cofnod sy’n caniatáu i’r gweithredwr adnabod y gweithredwr proffesiynol y cyflenwyd pob uned fasnach iddo.
Erthygl 69(4)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol gadw’r cofnodion sy’n ofynnol yn unol ag Erthygl 69(1) i (3) am o leiaf dair blynedd.
Erthygl 70(1)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol y cyflenwir y planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill y cyfeirir atynt yn Erthygl 69(1) a (2) iddynt, neu sy’n cyflenwi’r rheiny, fod â systemau neu weithdrefnau olrhain ar waith i ganiatáu i symudiadau’r planhigion, y cynhyrchion planhigion a’r gwrthrychau eraill hynny o fewn a rhwng eu mangreoedd eu hunain gael eu hadnabod.
Erthyglau 72(1) a 73Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill i [F36Brydain Fawr] o drydydd gwledydd oni bai bod tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gyda hwy(10).
Erthygl 74(1)Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill o drydydd gwledydd i [F37ardaloedd penodol sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr] oni bai bod tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gyda hwy(11).
Erthygl 79(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 81, 82 [F38, 83 a 92a])Yn gwahardd symud planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill o fewn [F39Prydain Fawr neu gyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill i Brydain Fawr o diriogaeth Ddibynnol y Goron heb basbort planhigion y DU] (12).
Erthygl 80(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 81, 82 [F40, 83 a 92a])Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill i [F41ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr], neu symud planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill o fewn [F41ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr], heb basbort planhigion [F42y DU] (13).
Erthygl 84(1)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol rhag dyroddi pasbortau planhigion [F43y DU] oni bai eu bod wedi eu hawdurdodi a rhag dyroddi pasbortau planhigion [F43y DU] ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill nad ydynt yn gyfrifol amdanynt.
Erthygl 84(3)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion [F43y DU] ac eithrio mewn mangreoedd, warysau cyfun neu ganolfannau anfon penodedig.
Erthygl 85 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 87)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion [F44y DU] ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill oni bai bod y gofynion penodedig wedi eu cyflawni mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny.
Erthygl 86(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 86(2) a 87)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion [F45y DU] ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i’w cyflwyno i [F46ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr], neu i’w symud o’i fewn, oni bai bod y gofynion penodol wedi eu cyflawni mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny.
[F47Erthygl 86a Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion y DU ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i’w cyflwyno i diriogaeth Ddibynnol y Goron, oni bai bod y gofynion penodol wedi eu cyflawni mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny.]
Erthygl 88Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol atodi pasbortau planhigion [F48y DU] i uned fasnach y planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill o dan sylw, neu pan fo’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill yn cael eu symud mewn pecyn, bwndel neu gynhwysydd, i’r pecyn, y bwndel neu’r cynhwysydd hwnnw.
Erthygl 90(1)

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr awdurdodedig:

(a)

nodi a monitro’r pwyntiau yn ei broses gynhyrchu a phwyntiau allweddol penodol eraill ynglŷn â symud planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill pan fo’r gweithredwr awdurdodedig yn bwriadu dyroddi pasbort planhigion [F49y DU] mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion a’r gwrthrychau eraill hynny, a

(b)

cadw cofnodion ynghylch nodi a monitro’r pwyntiau hynny am o leiaf dair blynedd.

Erthygl 90(2)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr awdurdodedig sicrhau bod hyfforddiant priodol yn cael ei roi i’w bersonél sy’n ymwneud â’r archwiliadau y cyfeirir atynt yn Erthygl 87.
Erthygl 93(1)Yn gwahardd gweithredwyr awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion [F50y DU] amnewid oni bai bod amodau penodol wedi eu cyflawni.
Erthygl 93(5)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr awdurdodedig gadw pasbortau planhigion [F50y DU] amnewid neu eu cynnwys am o leiaf dair blynedd.
Erthygl 96(1)

Yn gwahardd marcio deunydd pecynnu pren, pren neu wrthrychau eraill o fewn [F51Prydain Fawr]:

(c)

gan unrhyw weithredwr proffesiynol nad yw wedi ei awdurdodi yn unol ag Erthygl 98, neu

(d)

heblaw yn y modd gofynnol.

Erthygl 97(1)

Yn gwahardd trwsio deunydd pecynnu pren:

(a)

gan unrhyw weithredwr proffesiynol nad yw wedi ei awdurdodi yn unol ag Erthygl 98, neu

(b)

heblaw yn y modd gofynnol.

Diwygiadau Testunol

(1)

Nodir y rhestr o blâu cwarantin yr Undeb yn Atodiad 2 i Reoliad (EU) 2019/2072 (“Rheoliad Amodau Ffytoiechydol”) sy’n pennu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau diogelu rhag plâu planhigion (OJ Rhif L 319, 10.12.2019, t. 1) (“Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE”).

(2)

Nodir y rhestr o barthau gwarchodedig a’r priod blâu parth gwarchodedig yn Atodiad 3 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(3)

Nodir y rhestr o blâu nad ydynt yn blâu cwarantin Undeb a reoleiddir a’r planhigion perthnasol i’w plannu, gyda chategorïau a throthwyon, yn Atodiad 4 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(4)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill a’r trydydd gwledydd, y grwpiau o drydydd gwledydd neu’r ardaloedd penodol o drydydd gwledydd y mae’r gwaharddiad yn gymwys iddynt yn Atodiad 6 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(5)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill sy’n tarddu o drydydd gwledydd a’r gofynion arbennig cyfatebol mewn perthynas â’u cyflwyno i diriogaeth yr Undeb yn Atodiad 7 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(6)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill sy’n tarddu o’r Undeb a’r gofynion arbennig cyfatebol mewn perthynas â’u symud o fewn tiriogaeth yr Undeb yn Atodiad 8 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(7)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill uchel eu risg y mae’r gwaharddiad yn gymwys iddynt yn Atodiad 1 i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/2019 yn sefydlu rhestr dros dro o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill uchel eu risg, o fewn ystyr Erthygl 42 o Reoliad (EU) 2016/2031 a rhestr o blanhigion nad yw tystysgrifau ffytoiechydol yn ofynnol ar eu cyfer i’w cyflwyno i’r Undeb, o fewn ystyr Erthygl 73 o’r Rheoliad hwnnw (OJ Rhif L 323, 19.12.2018, t. 10).

(8)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 9 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(9)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 10 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(10)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at ddibenion Erthygl 72(1) yn Rhan A o Atodiad 11 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol. Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at ddibenion Erthygl 73(1) yn Rhan B o’r Atodiad hwnnw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill yn y rhestr a nodir yn Rhan C o’r Atodiad hwnnw.

(11)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 12 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(12)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 13 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(13)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 14 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources