- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5.—(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a)yn y diffiniad o “man arolygu a gymeradwywyd” yn lle “erthygl 3 o’r Gorchymyn” rhodder “rheoliad 13(10) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020”;
(b)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “hysbysiad adfer coedwigaeth” (“forestry remedial notice”) yw hysbysiad a gyflwynir gan arolygydd iechyd planhigion o dan reoliad 10 neu 15(1) neu (2) o’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020;”;
(c)yn lle’r diffiniad o “trwydded” rhodder—
“ystyr “trwydded” (“licence”) yw—
trwydded y cyfeirir ati yn rheoliad 51(1) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020 a roddwyd gan Weinidogion Cymru, neu
awdurdodiad a ddisgrifir yn rheoliad 20(1)(a) neu (b)(i) neu 21(1)(a) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020 a roddwyd gan Weinidogion Cymru.”;
(d)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020” (“the Official Controls (Plant Health) Regulations 2020”) yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020;”;
(e)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “Rheoliad Amodau Ffytoiechydol” (“Phytosanitary Conditions Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 yn sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion;”;
(f)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “arolygydd iechyd planhigion” (“plant health inspector”) yw swyddog iechyd planhigion swyddogol a benodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020;”;
(g)yn y diffiniad o “awdurdodiad pasbort planhigion”, ar y diwedd mewnosoder “ac a roddir gan Weinidogion Cymru”;
(h)hepgorer y diffiniad o “y Gorchymyn”;
(i)hepgorer y diffiniad o “hysbysiad adfer”;
(j)yn y diffiniad o “gwaith adfer”, yn lle “hysbysiad adfer, neu gan arolygydd o dan erthygl 32(1) o’r Gorchymyn” rhodder “hysbysiad adfer coedwigaeth, neu gan arolygydd iechyd planhigion o dan reoliad 16(1) o’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020”;
(k)yn y diffiniad o “awdurdodiad DPP”, ar y diwedd mewnosoder “ac a roddir gan Weinidogion Cymru”.
(3) Yn rheoliad 3—
(a)hepgorer paragraff (6);
(b)ar y diwedd mewnosoder—
“(6A) Rhaid i’r person y cyflwynir hysbysiad adfer coedwigaeth iddo neu y rhoddir hysbysiad iddo o dan reoliad 16(1) o’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020 dalu’r ffi a bennir yn Atodlen 5 ar gyfer cynnal neu fonitro gwaith adfer a gweithgareddau cysylltiedig gan arolygydd iechyd planhigion mewn cysylltiad â llwyth a reolir.”
O.S. 2019/497 (Cy. 114), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/44 (Cy. 5).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: