- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau yn Neddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 ac maent yn diwygio Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2880 (Cy. 238)) (“Rheoliadau 2010”).
Mae Rheoliadau 2010, yn ddarostyngedig i esemptiadau penodol, yn ei gwneud yn ofynnol i werthwyr nwyddau sy’n cyflenwi bagiau siopa untro at ddiben caniatáu i’r nwyddau hynny gael eu cludo ymaith neu eu danfon godi tâl am bob bag a gyflenwir.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 1 (Esemptiadau) i Reoliadau 2010, drwy fewnosod darpariaeth newydd i esemptio bagiau a ddefnyddir i gludo nwyddau a brynir i’w danfon yn rhan o wasanaeth danfon nwyddau groser, neu i’w casglu yn rhan o wasanaeth sy’n darparu ar gyfer casglu nwyddau groser, rhag y tâl. Gweithredir yr esemptiad newydd yn ddarostyngedig i derfyn amser o dri mis.
Diben yr esemptiad dros dro yw cynyddu effeithlonrwydd systemau danfon, a lliniaru cyhyd ag y bo modd, y risg o drosglwyddo feirws COVID-19 (coronafeirws) drwy systemau danfon a chasglu, drwy ddefnyddio bagiau siopa untro i gludo nwyddau.
Oherwydd natur frys yr offeryn ni fu’n bosibl llunio Asesiad Effaith Rheoleiddiol a’r Effaith ar Fusnes. Er hynny, mae anghenion busnesau ac, yn benodol, y sector manwerthu wedi llywio i raddau helaeth y gwaith o baratoi’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: