- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
16.—(1) Rhaid i’r Awdurdod—
(a)gwirio’r cofnodion yn y system olrhain holiaduron a chynhyrchu rhestr o gyfeiriadau ar gyfer pob ardal cydgysylltydd cyfrifiad ac ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol y mae’r Awdurdod wedi anfon neu wedi danfon pecyn cyfrifiad neu god mynediad unigryw newydd iddynt ond nad yw’r Awdurdod wedi cael holiadur wedi ei lenwi mewn cysylltiad â hwy yn unol â’r Rheoliadau hyn;
(b)darparu i bob cydgysylltydd cyfrifiad a phob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol y rhestr o gyfeiriadau y cyfeirir ati yn is-baragraff (a) sy’n berthnasol iddynt.
(2) Rhaid i bob cydgysylltydd cyfrifiad a phob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol drefnu yn eu tro i swyddogion cyfrifiad a swyddogion sefydliadau cymunedol ddefnyddio’r rhestr o gyfeiriadau y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b) i wneud unrhyw ymholiadau y mae’r swyddogion hynny yn meddwl eu bod yn rhesymol i unrhyw berson er mwyn cael y manylion y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i berson rhagnodedig eu darparu.
(3) Pan fo swyddog cyfrifiad neu swyddog sefydliadau cymunedol wedi gwneud ymholiadau o dan baragraff (2) i berson rhagnodedig nad yw’r Awdurdod wedi cael holiadur mewn cysylltiad ag ef, caiff y swyddog—
(a)casglu holiadur wedi ei lenwi,
(b)annog y person hwnnw i lenwi holiadur a’i gyflwyno i’r Awdurdod yn unol â’r Rheoliadau hyn,
(c)cytuno y caniateir i’r holiadur wedi ei lenwi gael ei gyflwyno drwy’r post gan ddefnyddio’r amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir,
(d)gwneud unrhyw drefniadau ar gyfer casglu’r holiadur papur y mae’r swyddog yn meddwl eu bod yn addas, neu
(e)darparu cod mynediad unigryw newydd neu holiadur papur arall.
(4) Rhaid i’r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron pa bryd bynnag y daw holiadur wedi ei lenwi i’w law ar ôl i’r camau o dan baragraffau (2) a (3) gael eu cymryd.
(5) Pan fo holiadur yn dod i law’r Awdurdod ond nad yw’r holiadur yn cynnwys rhai o’r manylion neu’r holl fanylion yr oedd Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r person rhagnodedig eu darparu, wedyn o ran penodai—
(a)caiff wneud, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, unrhyw ymholiadau y mae’r penodai yn meddwl eu bod yn rhesymol i unrhyw berson er mwyn cael y manylion coll, a
(b)rhaid iddo gofnodi’r atebion i’r ymholiadau hynny y caniateir iddynt gael eu defnyddio at ddiben y cyfrifiad.
(6) Cyn gynted â phosibl ar ôl i benodai gofnodi’r atebion yn unol â pharagraff (5)(b), rhaid i’r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod cofnod o’r fath wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r person rhagnodedig hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: