xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 708 (Cy. 159)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) 2020

Gwnaed

8 Gorffennaf 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

9 Gorffennaf 2020

Yn dod i rym

31 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(2)(a), (e) ac (g) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1ENWI, CYCHWYN A CHYMHWYSO

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Gorffennaf 2020 ac maent yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2020.

RHAN 2DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2017

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

2.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(3) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.

Diwygiadau i reoliad 62

3.  Yn rheoliad 62—

(a)yn lle paragraff (10) rhodder—

(10) Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd—

(a)drwy dynnu i ffwrdd y gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)drwy ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr ad-dalu’r gordaliad yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(c)drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.,

(b)hepgorer paragraff (11), ac

(c)hepgorer paragraff (12).

RHAN 3DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

4.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(4) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 5 i 11.

Diwygiad i reoliad 19

5.  Yn rheoliad 19, yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw P yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd—

(a)bod P neu berthynas agos i P yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog, neu

(b)nad yw P yn gallu bod yn y Deyrnas Unedig am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.

Diwygiad i reoliad 39

6.  Yn rheoliad 39, yn lle Eithriad 4 rhodder—

Eithriad 4

Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—

(a)na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu

(b)na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.

Diwygiad i reoliad 44

7.  Yn rheoliad 44, yn lle Eithriad 5 rhodder—

Eithriad 5

Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—

(a)na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu

(b)na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.

Diwygiad i reoliad 54

8.  Yn rheoliad 54, yn lle Eithriad 4 rhodder—

Eithriad 4

Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—

(a)na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu

(b)na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.

Diwygiad i reoliad 62

9.  Yn rheoliad 62, yn lle Eithriad 5 rhodder—

Eithriad 5

Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—

(a)na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu

(b)na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.

Amnewid rheoliad 91

10.  Yn lle rheoliad 91 rhodder—

91.  Pan fo benthyciad cynhaliaeth wedi cael ei ordalu caiff Gweinidogion Cymru adennill y gordaliad—

(a)drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw fenthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)drwy ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr cymwys ad-dalu’r gordaliad yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(c)drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.

Diwygiad i Atodlen 1

11.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 6(1), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

8 Gorffennaf 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (“Deddf 1998”) ac maent yn diwygio—

(a)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”), a

(b)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”).

Mae Rheoliadau 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2018. Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 62 o Reoliadau 2017 sy’n ymwneud, ymhlith pethau eraill, ag adennill gan Weinidogion Cymru ordaliadau o fenthyciadau at gostau byw. Nid yw’r ffordd y caiff Gweinidogion Cymru adennill gordaliadau o’r fath yn dibynnu mwyach ar ba un a yw myfyriwr wedi methu â darparu gwybodaeth neu wedi darparu gwybodaeth anghywir. Mae rheoliad 62 hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i fyfyriwr ad-dalu gordaliad yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998.

Mae Rheoliadau 2018 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018. Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 19 (terfynu cymhwystra yn gynnar) fel y bydd myfyriwr sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell y tu allan i’r Deyrnas Unedig am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws yn parhau i fod yn gymwys i gael cyllid.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 39 (amodau cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu) i ddileu’r gofyniad i fyfyriwr sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell fod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs hwnnw, mewn achosion pan fo’r absenoldeb yn ymwneud â’r coronafeirws.

Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 44 (amodau cymhwyso i gael y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth) i ddileu’r gofyniad i fyfyriwr sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell fod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs hwnnw, mewn achosion pan fo’r absenoldeb yn ymwneud â’r coronafeirws.

Mae rheoliad 8 yn diwygio rheoliad 54 (amodau cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth) i ddileu’r gofyniad i fyfyriwr sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell fod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs hwnnw, mewn achosion pan fo’r absenoldeb yn ymwneud â’r coronafeirws.

Mae rheoliad 9 yn diwygio rheoliad 62 (amodau cymhwyso i gael grant myfyriwr anabl) i ddileu’r gofyniad i fyfyriwr sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell fod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs hwnnw, mewn achosion pan fo’r absenoldeb yn ymwneud â’r coronafeirws.

Mae rheoliad 10 yn rhoi rheoliad 91 newydd (adennill benthyciadau cynhaliaeth sydd wedi cael eu gordalu) yn Rheoliadau 2018 yn lle’r un presennol. Nid yw’r ffordd y caiff Gweinidogion Cymru adennill gordaliadau o’r fath yn dibynnu mwyach ar ba un a yw myfyriwr wedi methu â darparu gwybodaeth neu wedi darparu gwybodaeth anghywir. Mae rheoliad 91 hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i fyfyriwr ad-dalu gordaliad yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6; Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147; Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7; Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 257; Deddf Addysg 2011 (p. 21), adran 76; O.S. 2013/1881 a Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 88. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(2)(a) i (i) a (k) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), ac mae is-adran (2)(a), (c) a (k) yn arferadwy yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd holl swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru uchod i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

O.S. 2017/47 (Cy. 21), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/191 (Cy. 42); O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/235 (Cy. 54); O.S. 2019/424 (Cy. 98) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ymlaen, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)); O.S. 2019/1192 (Cy. 209); O.S. 2020/142 (Cy. 25) ac O.S. 2020/153 (Cy. 27).

(4)

O.S. 2018/191 (Cy. 42), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/813 (Cy. 164); O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/235 (Cy. 54); O.S. 2019/424 (Cy. 98) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ymlaen, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)); O.S. 2019/1192 (Cy. 209); O.S. 2020/142 (Cy. 25) ac O.S. 2020/153 (Cy. 27).