xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(1) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.
3. Yn rheoliad 62—
(a)yn lle paragraff (10) rhodder—
“(10) Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd—
(a)drwy dynnu i ffwrdd y gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(b)drwy ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr ad-dalu’r gordaliad yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(c)drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.”,
(b)hepgorer paragraff (11), ac
(c)hepgorer paragraff (12).
O.S. 2017/47 (Cy. 21), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/191 (Cy. 42); O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/235 (Cy. 54); O.S. 2019/424 (Cy. 98) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ymlaen, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)); O.S. 2019/1192 (Cy. 209); O.S. 2020/142 (Cy. 25) ac O.S. 2020/153 (Cy. 27).