- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(1) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 5 i 11.
5. Yn rheoliad 19, yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw P yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd—
(a)bod P neu berthynas agos i P yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog, neu
(b)nad yw P yn gallu bod yn y Deyrnas Unedig am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.”
6. Yn rheoliad 39, yn lle Eithriad 4 rhodder—
“Eithriad 4
Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—
(a)na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu
(b)na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.”
7. Yn rheoliad 44, yn lle Eithriad 5 rhodder—
“Eithriad 5

8. Yn rheoliad 54, yn lle Eithriad 4 rhodder—

9. Yn rheoliad 62, yn lle Eithriad 5 rhodder—

10. Yn lle rheoliad 91 rhodder—
“91. Pan fo benthyciad cynhaliaeth wedi cael ei ordalu caiff Gweinidogion Cymru adennill y gordaliad—
(a)drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw fenthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(b)drwy ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr cymwys ad-dalu’r gordaliad yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(c)drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.”
11. Yn Atodlen 1, ym mharagraff 6(1), yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);”.
O.S. 2018/191 (Cy. 42), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/813 (Cy. 164); O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/235 (Cy. 54); O.S. 2019/424 (Cy. 98) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ymlaen, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)); O.S. 2019/1192 (Cy. 209); O.S. 2020/142 (Cy. 25) ac O.S. 2020/153 (Cy. 27).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: