xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1113 (Cy. 268)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

4 Hydref 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Tachwedd 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 5.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2Ergl. 1 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

DehongliLL+C

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(4);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 12 o fapiau a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” i “12”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 2 mewn grym ar 5.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I4Ergl. 2 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol WrecsamLL+C

3.—(1Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ei rhannu’n 49 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 y Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Ergl. 3 mewn grym ar 5.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I6Ergl. 3 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Cefn: newidiadau i wardiau cymunedolLL+C

4.  Yng nghymuned Cefn—

(a)mae’r rhan o ward Acre-fair a Phen-y-bryn a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Plas Madog;

(b)mae’r rhan o ward Cefn a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Acre-fair a Phen-y-bryn;

(c)mae’r rhan o ward Rhosymedre a Chefn Bychan a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Acre-fair a Phen-y-bryn.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Ergl. 4 mewn grym ar 5.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I8Ergl. 4 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Cefn: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

5.  Yng nghymuned Cefn—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Acre-fair a Phen-y-bryn yw 5;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Cefn yw 5;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhosymedre a Chefn Bychan yw 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Ergl. 5 mewn grym ar 5.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I10Ergl. 5 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Rhosllannerchrugog: newidiadau i wardiau cymunedolLL+C

6.  Yng nghymuned Rhosllannerchrugog—

(a)mae’r rhan o ward Gogledd Ponciau a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward Rhos;

(b)mae’r rhan o ward De Ponciau a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward Rhos.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Ergl. 6 mewn grym ar 5.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I12Ergl. 6 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Rhosllannerchrugog: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

7.  Yng nghymuned Rhosllannerchrugog—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Johnstown yw 6;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Ponciau yw 2;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhos yw 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Ergl. 7 mewn grym ar 5.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I14Ergl. 7 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Broughton: newidiadau i wardiau cymunedolLL+C

8.  Yng nghymuned Broughton—

(a)mae’r rhan o ward Bryn-teg a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward Bryn Cefn;

(b)mae’r rhan o ward Bryn-teg a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Gwenfro;

(c)mae’r rhan o ward New Broughton a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Gwenfro.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Ergl. 8 mewn grym ar 5.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I16Ergl. 8 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Broughton: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

9.  Yng nghymuned Broughton—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Bryn Cefn yw 5;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Bryn-teg yw 2;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gwenfro yw 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Ergl. 9 mewn grym ar 5.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I18Ergl. 9 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Gwersyllt: newidiadau i wardiau cymunedolLL+C

10.  Mae’r rhan o ward De Gwersyllt o gymuned Gwersyllt a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Gwersyllt o gymuned Gwersyllt.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Ergl. 10 mewn grym ar 5.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I20Ergl. 10 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Gwersyllt: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

11.  Yng nghymuned Gwersyllt—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Gwersyllt yw 4;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Gwersyllt yw 4;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Gwersyllt yw 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Ergl. 11 mewn grym ar 5.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I22Ergl. 11 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Parc Caia: newidiadau i wardiau cymunedolLL+C

12.  Yng nghymuned Parc Caia—

(a)mae’r rhan o ward Whitegate a ddangosir â llinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward Smithfield;

(b)mae’r rhan o ward Smithfield a ddangosir â llinellau ar Fap 8 wedi ei throsglwyddo i ward Wynnstay.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Ergl. 12 mewn grym ar 5.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I24Ergl. 12 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymunedau Abenbury a Pharc Caia: newidiadau i ffiniau cymunedolLL+C

13.  Mae’r rhan honno o gymuned Abenbury a ddangosir â llinellau ar Fap 9 wedi ei throsglwyddo i gymuned Parc Caia, ac mae’n ffurfio rhan o ward Whitegate o gymuned Parc Caia.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Ergl. 13 mewn grym ar 5.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I26Ergl. 13 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Parc Caia: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

14.  Nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Wynnstay o gymuned Parc Caia yw 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Ergl. 14 mewn grym ar 5.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I28Ergl. 14 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Offa: newidiadau i wardiau cymunedolLL+C

15.  Yng nghymuned Offa—

(a)mae’r rhannau o ward Offa a ddangosir â llinellau ar Fap 10 wedi eu trosglwyddo i ward Erddig;

(b)mae’r rhan o ward Brynyffynnon a ddangosir â llinellau ar Fap 11 wedi ei throsglwyddo i ward Offa;

(c)mae’r rhan o ward Offa a ddangosir â llinellau ar Fap 12 wedi ei throsglwyddo i ward Brynyffynnon.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Ergl. 15 mewn grym ar 5.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I30Ergl. 15 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Offa: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

16.  Yng nghymuned Offa—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Hermitage yw 4;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Offa yw 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Ergl. 16 mewn grym ar 5.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I32Ergl. 16 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

4 Hydref 2021

Erthygl 3

YR ATODLENLL+CENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. mewn grym ar 5.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I34Atod. mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Tabl

Colofn (1)Colofn (2)Colofn (3)Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadolEnw Cymraeg y ward etholiadolArdal y ward etholiadolNifer aelodau’r cyngor
Acrefair NorthGogledd Acre-fairWard Plas Madog o gymuned Cefn1
Acton and MaesydreGwaunyterfyn a Maes-y-dreWardiau Parc Gwaunyterfyn, Canol Gwaunyterfyn, a Maes-y-dre o gymuned Gwaunyterfyn2
Bangor Is-y-CoedBangor-is-y-coedCymunedau Bangor-is-y-coed a Willington Worthenbury1
Borras ParkParc BorrasWard Parc Borras o gymuned Gwaunyterfyn1
Bronington and HanmerBronington a HanmerCymunedau Bronington a Hanmer1
BrymboBrymboWardiau Brymbo a Fron o gymuned Brymbo2
Bryn CefnBryn CefnWard Bryn Cefn o gymuned Broughton1
BrynyffynnonBrynyffynnonWard Brynyffynnon o gymuned Offa1
CartrefleCartrefleWard Cartrefle o gymuned Parc Caia1
Cefn EastDwyrain CefnWardiau Cefn, a Rhosymedre a Chefn Bychan o gymuned Cefn1
Cefn WestGorllewin CefnWard Acre-fair a Phen-y-bryn o gymuned Cefn1
Chirk NorthGogledd y WaunWard Gogledd y Waun o gymuned y Waun1
Chirk SouthDe’r WaunWard De’r Waun o gymuned y Waun1
CoedpoethCoed-poethCymuned Coed-poeth2
Dyffryn CeiriogDyffryn CeiriogCymunedau Ceiriog Uchaf, Glyntraean a Llansanffraid Glyn Ceiriog1
ErddigErddigWard Erddig o gymuned Offa1
EsclushamEsclushamWardiau Bers a Rhostyllen o gymuned Esclusham1
Garden VillageGarden VillageWard Garden Village o gymuned Rhos-ddu1
Gresford East and WestDwyrain a Gorllewin GresfforddWardiau Dwyrain Gresffordd a Gorllewin Gresffordd o gymuned Gresffordd1
GrosvenorGrosvenorWard Grosvenor o gymuned Rhos-ddu1
GwenfroGwenfroWard Gwenfro o gymuned Broughton1
Gwersyllt EastDwyrain GwersylltWard Dwyrain Gwersyllt o gymuned Gwersyllt1
Gwersyllt NorthGogledd GwersylltWard Gogledd Gwersyllt o gymuned Gwersyllt1
Gwersyllt SouthDe GwersylltWard De Gwersyllt o gymuned Gwersyllt1
Gwersyllt WestGorllewin GwersylltWard Gorllewin Gwersyllt o gymuned Gwersyllt1
HermitageHermitageWard Hermitage o gymuned Offa1
HoltHoltCymunedau Abenbury, Holt ac Is-y-coed1
Little ActonActon FechanWard Acton Fechan o gymuned Gwaunyterfyn1
Llangollen RuralLlangollen WledigCymuned Llangollen Wledig1
LlayLlaiCymuned Llai2
MarchwielMarchwiel [F1Cymunedau Erbistog, Marchwiel a Sesswick]1
Marford and HoseleyMarford a HoseleyWard Marford a Hoseley o gymuned Gresffordd1
MineraMwynglawddWard Bwlch-gwyn o gymuned Brymbo, a chymuned Mwynglawdd1
New BroughtonNew BroughtonWardiau Bryn-teg a New Broughton o gymuned Broughton1
OffaOffaWard Offa o gymuned Offa1
Overton and Maelor SouthOwrtyn a De MaelorCymunedau De Maelor ac Owrtyn1
Pant and JohnstownPant a JohnstownWardiau Johnstown a Phant o gymuned Rhosllannerchrugog2
PenycaePen-y-caeWard Eitha o gymuned Pen-y-cae1
Penycae and Ruabon SouthPen-y-cae a De RhiwabonWard y Groes o gymuned Pen-y-cae a ward De Rhiwabon o gymuned Rhiwabon1
PonciauPonciauWard Pentrebychan o gymuned Esclusham a wardiau Gogledd Ponciau a De Ponciau o gymuned Rhosllannerchrugog1
QueenswayQueenswayWard Queensway o gymuned Parc Caia1
RhosRhosWard Rhos o gymuned Rhosllannerchrugog a ward Aber-oer o gymuned Esclusham1
RhosnesniRhosnesniWard Rhosnesni o gymuned Gwaunyterfyn2
RossettYr OrseddCymuned yr Orsedd2
RuabonRhiwabonWard Gogledd Rhiwabon o gymuned Rhiwabon1
SmithfieldSmithfieldWard Smithfield o gymuned Parc Caia1
StanstyStanstyWard Stansty o gymuned Rhos-ddu1
WhitegateWhitegateWard Whitegate o gymuned Parc Caia1
WynnstayWynnstayWard Wynnstay o gymuned Parc Caia1

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (ׅ“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Tachwedd 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig cynyddu nifer y wardiau etholiadol, o 47 i 49, a chynyddu nifer y cynghorwyr o 52 i 56.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i ffiniau cymunedol a newidiadau i drefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Acre-fair a Phen-y-bryn, Cefn, Plas Madog, a Rhosymedre a Chefn Bychan yng nghymuned Cefn. Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Acre-fair a Phen-y-bryn, Cefn, a Rhosymedre a Chefn Bychan o gymuned Cefn.

Mae erthygl 6 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Gogledd Ponciau, De Ponciau a Rhos yng nghymuned Rhosllannerchrugog. Mae erthygl 7 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Johnstown, De Ponciau a Rhos o gymuned Rhosllannerchrugog.

Mae erthygl 8 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Bryn-teg, Bryn Cefn, New Broughton a Gwenfro yng nghymuned Broughton. Mae erthygl 9 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Bryn Cefn, Bryn-teg a Gwenfro o gymuned Broughton.

Mae erthygl 10 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol De Gwersyllt a Dwyrain Gwersyllt yng nghymuned Gwersyllt. Mae erthygl 11 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Dwyrain Gwersyllt, De Gwersyllt a Gorllewin Gwersyllt o gymuned Gwersyllt.

Mae erthygl 12 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Whitegate, Smithfield a Wynnstay yng nghymuned Parc Caia. Mae erthygl 13 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng cymunedau Abenbury a Pharc Caia. Mae erthygl 14 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Wynnstay o gymuned Parc Caia.

Mae erthygl 15 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Erddig, Offa, a Brynffynnon yng nghymuned Offa. Mae erthygl 16 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Hermitage ac Offa o gymuned Offa.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “12” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol) a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(3)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(4)

O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(5)

1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.