Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Diwygio) (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 7DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (BENTHYCIADAU AT RADD DDOETHUROL ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2018

PENNOD 1Cyflwyniad

43.  Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(1) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Hawliau dinasyddion a meini prawf preswyliad

Diwygiadau i reoliadau 2 a 3

44.  Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—

(a)mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad;

(b)yn y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii), ac ar ôl is-baragraff (a)(iv) mewnosoder—

(v)sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu

(c)ar ôl y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, mewnosoder—

(2) Ym mharagraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—

(a)Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

(b)Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu

(c)Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

45.  Yn rheoliad 3(11)(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.

Diwygiadau i Atodlen 1

46.  Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 2A—

(i)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;

(ii)yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “cwrs” mewnosoder “ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngweriniaeth Iwerddon am o leiaf ran o’r cyfnod hwnnw”, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd yr is-baragraff hwnnw a mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (1)(d);

(iii)ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.

(b)ym mharagraff 3(1)(a)(iv)—

(i)ym mharagraff (bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (3)”;

(ii)ym mharagraff (cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (3)”;

(iii)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) At ddibenion is-baragraff (1)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—

(a)Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

(b)Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu

(c)Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.;

(c)ym mharagraff 10C(1), hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd paragraff (c), mewnosoder “ac” ar ddiwedd paragraff (d), ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.

PENNOD 3Cymhwystra dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir

Diwygiadau i reoliad 3

47.  Yn rheoliad 3—

(a)ym mharagraff (2)(a), ar ôl “10B,” mewnosoder “10BA,”;

(b)ym mharagraff (2B), yn lle “9A, 10B neu 10D” rhodder “9A, 10B, 10BA neu 10D”.

Diwygiadau i Atodlen 1

48.  Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 10B, mewnosoder—

Dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir

10BA.(1) Person—

(a)sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; neu

(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources