xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1418 (Cy. 368)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Disgyblion Ysgol Anabl) (Cymru) 2021

Gwnaed

13 Rhagfyr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

14 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

5 Ionawr 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau ym mharagraffau 6B(3), 6C(4) a 6D(4) o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Disgyblion Ysgol Anabl) (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Ionawr 2022.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2010” yw Deddf Cydraddoldeb 2010.

(4Mae i eiriau ac ymadroddion Cymraeg yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i eiriau ac ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Neddf 2010 yr un ystyr â’r geiriau a’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Cyngor a gwybodaeth

2.—(1Wrth wneud trefniadau o dan baragraff 6B(1) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010 i ddarparu cyngor a gwybodaeth i ddisgyblion ysgol anabl yn ei ardal, ac i gyfeillion achos(2) disgyblion o’r fath, rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod y cyngor a’r wybodaeth hefyd yn cael eu darparu i rieni disgyblion ysgol anabl yn ei ardal.

(2Rhaid i’r trefniadau ei gwneud yn ofynnol i’r cyngor a’r wybodaeth gynnwys y canlynol—

(a)hawliau disgyblion ysgol anabl o dan Ddeddf 2010 sy’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion,

(b)dyletswyddau’r awdurdod lleol o dan Ddeddf 2010 sy’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion,

(c)sut i gael mynediad at drefniadau’r awdurdod lleol ar gyfer datrys anghydfodau,

(d)sut i gael mynediad at wasanaethau eirioli annibynnol, ac

(e)sut i ddod â hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd gerbron Tribiwnlys Addysg Cymru.

(3Rhaid i’r trefniadau sicrhau bod y cyngor a’r wybodaeth—

(a)yn glir, yn ffeithiol ac yn gywir, a

(b)yn cael eu cadw’n gyfredol.

Datrys anghydfodau

3.  Cyn penodi person at ddibenion paragraff 6C(2) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010, rhaid i awdurdod lleol fod wedi ei fodloni bod y person y mae’n bwriadu ei benodi—

(a)yn ddigon gwybodus ynghylch pwnc Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2010, a

(b)yn annibynnol ar yr awdurdod lleol a’r personau sy’n ymwneud ag unrhyw anghydfod.

Gwasanaethau eirioli annibynnol

4.—(1Cyn gwneud trefniadau â darparwr at ddibenion paragraff 6D o Atodlen 17 i Ddeddf 2010, rhaid i awdurdod lleol fod wedi ei fodloni—

(a)bod y darparwr yn ddigon gwybodus ynghylch pwnc Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2010,

(b)bod y darparwr yn meddu ar y sgiliau y mae eu hangen i gyfathrebu’n effeithiol â disgyblion ysgol anabl, gan gynnwys y rheini sydd ag anawsterau cyfathrebu,

(c)nad yw’r darparwr ar y rhestr wahardd ar gyfer plant, neu, yn achos darparwr sy’n gweithio gyda phobl ifanc, y rhestr wahardd ar gyfer oedolion, a

(d)y bydd y darparwr yn cadw cofnodion cyfrinachol o’r gwasanaethau a ddarperir o dan y trefniant.

(2At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)ystyr “darparwr” yw person sy’n darparu gwasanaethau eirioli annibynnol,

(b)ystyr “rhestr wahardd ar gyfer plant” a “rhestr wahardd ar gyfer oedolion” yw’r rhestrau a gynhelir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o dan adran 2 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(3).

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

13 Rhagfyr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch dyletswyddau awdurdodau lleol yng Nghymru o dan baragraffau 6B, 6C a 6D o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch y trefniadau y mae rhaid i awdurdod lleol eu gwneud i ddarparu cyngor a gwybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion i ddisgyblion anabl a’u cyfeillion achos.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch penodi personau annibynnol i hwyluso datrys anghydfodau ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch penodi personau i ddarparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer disgyblion ysgol anabl.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(2)

Mae paragraff 6A o Atodlen 17 i Ddeddf 2010 yn darparu ar gyfer penodi cyfeillion achos.