xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
1 Mawrth 2021
Yn dod i rym
1 Hydref 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 25B(3)(c) a 203(9) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 203(6) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru(2) ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lefelau Staff Nyrsio (Estyn Sefyllfaoedd) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2021.
2. Mae wardiau cleifion mewnol pediatrig wedi eu pennu yn sefyllfa y mae’r dyletswyddau o dan adran 25B o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn gymwys iddi.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
1 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
O dan adran 25B o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, mae Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG sy’n darparu gwasanaethau nyrsio mewn perthynas â’r lleoliadau clinigol hynny a bennir yn is-adran 25B(3), sef wardiau meddygol acíwt i gleifion mewnol sy’n oedolion a wardiau llawfeddygol acíwt i gleifion mewnol sy’n oedolion, o dan ddyletswydd i gyfrifo lefelau staff nyrsio a chymryd camau i’w cynnal, ac i hysbysu cleifion am y lefelau staff nyrsio hynny.
Mae’r Rheoliadau hyn yn estyn y sefyllfaoedd y mae’r dyletswyddau o dan adran 25B o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn gymwys iddynt i gynnwys wardiau cleifion mewnol pediatrig.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn yng Nghymru. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2006 p. 42; gweler adran 206(1) am y diffiniad o “regulations”. Mewnosodwyd adran 25B yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”) gan adran 1(1) o Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (dccc 5) (“Deddf 2016”). Diwygiwyd adran 203(6) o Ddeddf 2006 gan adran 1(2) o Ddeddf 2016 i ddarparu bod rheoliadau sy’n cael eu gwneud o dan adran 25B(3)(c) o Ddeddf 2006 yn cael eu gwneud yn unol â’r weithdrefn gadarnhaol. Mewnosodwyd y diffiniad o “nurse staffing level”, fel y’i diffinnir yn adran 25B(1)(a) o Ddeddf 2006, yn y tabl o ymadroddion wedi eu diffinio yn adran 207 o’r un Ddeddf gan adran 1(3) o Ddeddf 2016.
Mae’r cyfeiriad yn adran 203(6) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).