Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

(a)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“y Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau”) – gweler Rhan 2,

(b)Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau CPC”) – gweler Rhan 3,

(c)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) – gweler Rhan 4,

(d)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau Graddau Meistr 2017”) – gweler Rhan 5,

(e)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) – gweler Rhan 6,

(f)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Graddau Doethurol”) – gweler Rhan 7, ac

(g)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau Graddau Meistr 2019”) – gweler Rhan 8.

Mae’r diwygiadau yn cymryd effaith mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2021. Y prif ddiwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yw—

(a)gwneud newidiadau o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd;

(b)gwneud newidiadau sy’n ymwneud â phersonau sydd â chaniatâd Calais neu bersonau penodol sy’n ddioddefwyr trais domestig neu gam-drin domestig neu sydd wedi cael profedigaeth.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i gynnwys y canlynol yn y categorïau o fyfyrwyr cymwys at ddibenion cymorth i fyfyrwyr, y rheini sydd â statws ffioedd cartref o dan y Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau a’r rheini sy’n bersonau rhagnodedig o dan y Rheoliadau CPC—

  • personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt, personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth, personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a phersonau sy’n bodloni gofynion paragraffau 352J, 352K, 352L neu 352T o’r rheolau mewnfudo, gan gynnwys plant y rhoddwyd “caniatâd oherwydd llinach” iddynt (personau â chaniatâd Calais);

  • personau y rhoddir caniatâd iddynt aros yn y Deyrnas Unedig o dan y rheolau mewnfudo oherwydd eu bod yn ddioddefwyr trais domestig neu gam-drin domestig neu oherwydd eu bod wedi cael profedigaeth a’u plant;

  • personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon;

  • personau sy’n dod o fewn cwmpas personol darpariaethau hawliau dinasyddion y cytundeb ymadael â’r UE, cytundeb gwahanu EFTA yr AEE a’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd (“y Cytundebau”) ac sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio (fel y diffinnir “residence scheme immigration rules” yn adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020);

  • personau sy’n dod o fewn cwmpas personol darpariaethau hawliau dinasyddion y Cytundebau sydd yn y cyfnod gras ar gyfer ceisiadau am ganiatâd o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, neu nad yw eu ceisiadau am ganiatâd o’r fath wedi eu penderfynu eto, a dinasyddion Gwyddelig nad yw’n ofynnol iddynt gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

  • aelodau o deuluoedd personau perthnasol o Ogledd Iwerddon sydd â chaniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

  • gweithwyr trawsffiniol o fewn ystyr “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1213);

  • personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig a arferodd hawl i breswylio yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

  • gwladolion o’r Deyrnas Unedig ac aelodau o’u teuluoedd sydd, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi bod yn preswylio fel arfer yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir, mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Ionawr 2028;

  • aelodau o deuluoedd gwladolion o’r Deyrnas Unedig sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw;

  • gwladolion o’r Deyrnas Unedig ac aelodau o’u teuluoedd sy’n preswylio yn Gibraltar a phersonau sydd â hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE;

  • plant gwladolion Swisaidd sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 18(2) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd;

  • plant gweithwyr Twrcaidd sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Mae’r diwygiadau hefyd yn gwneud mân gywiriadau.

Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018. Mae Rheoliadau 2018 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018.

Mae rheoliadau 116 i 118 yn diwygio darpariaeth sy’n ymwneud â chymhwystra i gael cymorth i fyfyrwyr drwy gynnwys cyfeiriad at y categorïau cymhwystra a fewnosodir yn Atodlen 2 i Reoliadau 2018 gan reoliadau 130 i 145. Mae’r diwygiadau yn cyfyngu categorïau cymhwystra presennol penodol i fyfyrwyr sy’n dod o fewn y categorïau hynny cyn 1 Awst 2021 ac sy’n ymgymryd â chwrs sy’n dechrau cyn y dyddiad hwnnw. Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer categorïau cymhwystra newydd nad ydynt wedi eu cyfyngu i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021.

Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 119 i 121 yn cymryd i ystyriaeth y categorïau newydd a fewnosodir yn Atodlen 2 i Reoliadau 2018 drwy wneud darpariaeth ar gyfer achosion pan fo person yn peidio â chael caniatâd Calais, caniatâd i aros fel partner a ddiogelir neu ganiatâd i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio.

Mae rheoliadau 122 i 129 yn gwneud diwygiadau cysylltiedig pellach i Reoliadau 2018, gan gynnwys diwygio’r amgylchiadau y caiff myfyriwr gymhwyso i gael cymorth odanynt yn ystod y flwyddyn academaidd i gymryd i ystyriaeth y newidiadau a wneir i Atodlen 2.

Mae rheoliadau 146 i 152 yn gwneud diwygiadau i Atodlenni 4 a 5 i Reoliadau 2018 i gymryd i ystyriaeth y diwygiadau a wneir i Atodlen 2.

Mae rheoliad 153 yn diwygio’r mynegai o dermau wedi eu diffinio yn Atodlen 7 i adlewyrchu’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 2 yn gwneud diwygiadau tebyg i’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau. Mae’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau yn awdurdodi codi ffioedd sy’n uwch yn achos myfyrwyr nad oes ganddynt gysylltiad penodedig â’r Deyrnas Unedig nag yn achos myfyrwyr sydd â chysylltiad o’r fath (y rheini sydd â statws ffioedd cartref). Mae’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau hefyd yn awdurdodi mabwysiadu rheolau cymhwystra sy’n cyfyngu dyfarniadau i’r rheini sydd â chysylltiad o’r fath â’r Deyrnas Unedig.

Mae Rhan 3 yn gwneud diwygiadau tebyg i’r Rheoliadau CPC. Mae’r Rheoliadau CPC yn rhagnodi’r cyrsiau cymhwysol a’r personau cymhwysol at ddibenion adran 5 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, sy’n nodi bod rhaid i gynlluniau ffioedd a mynediad sefydliadau bennu terfynau ffioedd neu ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfynau ffioedd mewn perthynas â chyrsiau cymhwysol. Uchafswm sy’n daladwy gan berson cymhwysol mewn perthynas â chwrs cymhwysol yw terfyn ffioedd ac mae’r Atodlen i’r Rheoliadau CPC yn rhestru’r personau hynny a all fod yn bersonau cymhwysol.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau tebyg i Reoliadau 2017 ac yn gwneud diwygiadau i ddirymu Rhan 11 o Reoliadau 2017, sydd bellach yn ddiangen. Mae Rheoliadau 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2018.

Mae Rhan 5 yn gwneud diwygiadau tebyg i Reoliadau Graddau Meistr 2017. Mae Rheoliadau Graddau Meistr 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd feistr ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019.

Mae Rhan 7 yn gwneud diwygiadau tebyg i’r Rheoliadau Graddau Doethurol. Mae’r Rheoliadau Graddau Doethurol yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd ddoethurol ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018.

Mae Rhan 8 yn gwneud diwygiadau tebyg i Reoliadau Graddau Meistr 2019. Mae Rheoliadau Graddau Meistr 2019 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd feistr ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources