Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 2DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (FFIOEDD A DYFARNIADAU) (CYMRU) 2007

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

3.  Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(1) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

4.  Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla; Bermuda; Tiriogaeth Antarctig Prydain; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Gibraltar; Montserrat; Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd De Georgia a De Sandwich; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynys Ascension a Tristan da Cunha); ac Ynysoedd Turks a Caicos; ;

(b)ym mharagraff (4)—

(i)ar ôl “Ynysoedd” mewnosoder “, yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon”;

(ii)ar ôl “tiriogaethau tramor”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “, y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”;

(c)ym mharagraff (5), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o’r lluoedd hynny y tu allan i’r diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon;;

(d)ym mharagraff (6)—

(i)ar ôl “Ynysoedd” mewnosoder “, yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon”;

(ii)ar ôl “tiriogaethau tramor” mewnosoder “, y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”.

5.  Yn rheoliad 4 (codi ffioedd)—

(a)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (1B), mae’n gyfreithlon i’r sefydliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) godi ffioedd uwch yn achos person nad yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)paragraffau 2, 2A, 3, 4, 4A, 4B, 5, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 9E, 10A, 11A neu 12A o’r Atodlen; neu

(b)paragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen pan fo paragraff (1A) yn gymwys,

nag yn achos person sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r paragraffau hynny.;

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)mewn cysylltiad â chwrs sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, pan ddaeth person (“A”) o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021; a

(b)pan fo A yn atebol am ffioedd mewn cysylltiad ag—

(i)y cwrs hwnnw, neu

(ii)cwrs a ddarperir gan sefydliad y cyfeirir ato ym mharagraff (3) y mae A yn trosglwyddo iddo o’r cwrs hwnnw yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

(1B) Mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028, mae paragraff (1) yn cael effaith fel pe bai paragraffau 8A a 9B wedi eu hepgor o baragraff (1)(a).;

(c)ym mharagraff (2), yn lle “o fewn yr” rhodder “o fewn paragraff o’r”, ac yn lle “o’i mewn” rhodder “o’i fewn”.

6.  Yn rheoliad 5 (dyfarniadau gan awdurdodau lleol)—

(a)ym mharagraff (1), ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (4),”;

(b)yn lle paragraff (1)(b) ac (c) rhodder—

(b)sy’n cyfyngu cymhwyster yn achos dyfarniadau ffioedd i’r personau hynny sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(i)paragraffau 2, 2A, 3, 4, 4A, 4B, 5, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 9E, 10A, 11A neu 12A o’r Atodlen, neu

(ii)paragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen pan fo paragraff (2) yn gymwys;

(c)sy’n cyfyngu cymhwyster yn achos dyfarniadau cynhaliaeth i’r personau hynny sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(i)paragraffau 2, 3, 4, 4A, 4B, 5, 6A, 7A, 8A, 9B, 10A, 11A neu 12A o’r Atodlen, neu

(ii)paragraffau 6, 7, 8, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen pan fo paragraff (3) yn gymwys.;

(c)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)mewn cysylltiad â chwrs sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, pan oedd person (“A”) yn gymwys i gael dyfarniad yn rhinwedd dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs hwnnw sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, a

(b)pan fo cymhwyster A ar gyfer dyfarniad yn cael ei asesu mewn perthynas â’r cwrs hwnnw.

(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)mewn cysylltiad â chwrs sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, pan oedd person (“A”) yn gymwys i gael dyfarniad yn rhinwedd dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau 6, 7, 8, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs hwnnw sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, a

(b)pan fo cymhwyster A ar gyfer dyfarniad yn cael ei asesu mewn perthynas â’r cwrs hwnnw.

(4) Mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028, mae paragraff (1) yn cael effaith fel pe bai paragraffau 8A a 9B wedi eu hepgor o baragraffau (1)(b)(i) ac (1)(c)(i).

7.—(1Yn lle’r pennawd ar gyfer rheoliad 6 rhodder—

Taliadau gan CCAUC i ddarparwyr hyfforddiant.

(2Yn lle rheoliad 6 rhodder—

6.(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo CCAUC(2), o dan adran 86 o Ddeddf 2005(3), yn rhoi grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill i ddarparwr hyfforddiant.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae’n gyfreithlon i CCAUC fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau a roddir gan y darparwr hyfforddiant sy’n cyfyngu cymhwyster i’r personau hynny sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)paragraffau 2, 2A, 3, 4, 4A, 4B, 5, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 9E, 10A, 11A neu 12A o’r Atodlen, neu

(b)paragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen pan fo paragraff (4) yn gymwys.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae’n gyfreithlon i ddarparwr hyfforddiant sy’n cael grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill o dan adran 86 o Ddeddf 2005 fabwysiadau rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy’n cyfyngu cymhwyster i’r personau hynny sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)paragraffau 2, 2A, 3, 4, 4A, 4B, 5, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 9E, 10A, 11A neu 12A o’r Atodlen, neu

(b)paragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen pan fo paragraff (4) yn gymwys.

(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)mewn cysylltiad â hyfforddiant sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, pan oedd person (“A”) yn gymwys i gael dyfarniad yn rhinwedd dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, a

(b)pan fo cymhwyster A ar gyfer dyfarniad yn cael ei asesu mewn perthynas â’r hyfforddiant hwnnw.

(5) Mewn perthynas â hyfforddiant sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028, mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith fel pe bai paragraffau 8A a 9B wedi eu hepgor o baragraffau (2)(a) a (3)(a).

8.  Yn lle rheoliad 7 (taliadau gan CCAUC) rhodder—

7.(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo CCAUC yn rhoi grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill o dan adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(4) i sefydliad at ddiben hyfforddi myfyrwyr (ac eithrio ar gwrs sy’n arwain at radd gyntaf) i addysgu personau dros yr oedran ysgol gorfodol.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae’n gyfreithlon i CCAUC fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau i’w rhoi i’r myfyrwyr sy’n cyfyngu cymhwyster i’r personau hynny sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)paragraffau 2, 2A, 3, 4, 4A, 4B, 5, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 9E, 10A, 11A neu 12A o’r Atodlen, neu

(b)paragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen pan fo paragraff (4) yn gymwys.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae’n gyfreithlon i sefydliad y mae CCAUC yn talu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo at y diben a ddisgrifir ym mharagraff (1) fabwysiadau rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy’n cyfyngu cymhwyster i’r personau hynny sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)paragraffau 2, 2A, 3, 4, 4A, 4B, 5, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 9E, 10A, 11A neu 12A o’r Atodlen; neu

(b)paragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen pan fo paragraff (4) yn gymwys.

(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)mewn cysylltiad â hyfforddiant sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, pan oedd person (“A”) yn gymwys i gael dyfarniad yn rhinwedd dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, a

(b)pan fo cymhwyster A ar gyfer dyfarniad yn cael ei asesu mewn perthynas â’r hyfforddiant hwnnw.

(5) Mewn perthynas â hyfforddiant sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028, mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith fel pe bai paragraffau 8A a 9B wedi eu hepgor o baragraffau (2)(a) a (3)(a).

(6) Ym mharagraff (1), mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf Addysg 1996(5).

9.  Yn lle rheoliad 8 (taliadau gan Weinidogion Cymru) rhodder—

8.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’n gyfreithlon i Weinidogion Cymru fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau gan sefydliad y maent yn rhoi grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo o dan adran 34 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(6) sy’n cyfyngu cymhwyster i’r personau hynny sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)paragraffau 2, 2A, 3, 4, 4A, 4B, 5, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 9E, 10A, 11A neu 12A o’r Atodlen, neu

(b)paragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen pan fo paragraff (3) yn gymwys.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’n gyfreithlon i sefydliad y mae Gweinidogion Cymru yn talu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo o dan adran 34 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 fabwysiadau rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy’n cyfyngu cymhwyster i’r personau hynny sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)paragraffau 2, 2A, 3, 4, 4A, 4B, 5, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 9E, 10A, 11A neu 12A o’r Atodlen, neu

(b)paragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen pan fo paragraff (3) yn gymwys.

(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“A”) yn gymwys i gael dyfarniad yn rhinwedd dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, a

(b)pan fo cymhwyster A ar gyfer dyfarniad yn cael ei asesu.

(4) Mewn perthynas â dyfarniad a wneir ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028, mae paragraffau (1) a (2) yn cael effaith fel pe bai paragraffau 8A a 9B wedi eu hepgor o baragraffau (1)(a) a (2)(a).

10.  Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1—

(a)yn y diffiniad o “aelod o’r teulu”—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “neu berson hunangyflogedig yr AEE” rhodder “, person hunangyflogedig yr AEE neu berson perthnasol o Ogledd Iwerddon a drinnir fel pe bai’n weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig yr AEE yn rhinwedd paragraff 6A(3)”;

(ii)ym mharagraff (c), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38”(7) mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;

(iii)ym mharagraff (ch), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38” mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;

(iv)ym mharagraff (d), yn lle “paragraff 9” rhodder “paragraffau 9, 9B, 9C, 9D a 9E”;

(b)hepgorer y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth”;

(c)yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”, ym mharagraff (a)(i), yn lle “diogelwch dyngarol neu ganiatâd” rhodder “caniatâd”;

(d)hepgorer y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67”;

(e)hepgorer y diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol”;

(f)yn y lle priodol mewnosoder—

mae i “cyfnod gras” yr ystyr a roddir i “grace period” gan reoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;;

mae i “cyfnod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant period” gan reoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;;

mae i “gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” yr ystyr a roddir i “United Kingdom national” gan Erthygl 2(d) o’r cytundeb ymadael â’r UE;;

mae i “person perthnasol o Ogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir i “relevant person of Northern Ireland” gan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;;

ystyr “person sydd â hawliau gwarchodedig” (“person with protected rights”) yw—

(a)

person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion—

(i)

a chanddo ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio(8);

(ii)

sy’n ddinesydd Gwyddelig nad yw’n ofynnol iddo, yn rhinwedd adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971(9), gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

(iii)

sy’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod gras wedi dod i ben; neu

(iv)

sy’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod perthnasol wedi dod i ben; neu

(b)

aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio;;

ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”) yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig naill ai fel dioddefwr trais domestig neu gam-drin domestig neu fel partner sydd wedi cael profedigaeth o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo—

(a)

paragraffau 289B a 289D (dioddefwyr trais domestig);

(b)

paragraffau D-DVILR.1.1. a D-DVILR.1.2. o Atodiad FM (dioddefwyr cam-drin domestig);

(c)

paragraffau 40 ac 41 o Atodiad Lluoedd Arfog (dioddefwyr trais domestig sy’n bartneriaid i aelodau o’r lluoedd arfog);

(ch)

paragraff 288, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 287(b) o’r rheolau mewnfudo wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (priodau neu bartneriaid sifil sydd wedi cael profedigaeth);

(d)

paragraffau D-BPILR.1.1 a D-BPILR.1.2 o Atodiad FM (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth);

(dd)

paragraffau 36 a 37 o Atodiad Lluoedd Arfog (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth); neu

(e)

paragraff 295N, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 295M o’r rheolau mewnfudo wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (partner di-briod neu bartner o’r un rhyw sydd wedi cael profedigaeth);;

ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” (“person granted leave to enter or remain as a protected person”) yw person a chanddo—

(a)

caniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;

(b)

caniatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo;

(c)

caniatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016(10) ac yn unol â’r rheolau mewnfudo; neu

(ch)

caniatâd cyfredol i aros o dan baragraffau 352J, 352K, 352L neu 352T o’r rheolau mewnfudo (caniatâd Calais a “caniatâd oherwydd llinach” a roddir yn rhinwedd bod yn blentyn dibynnol i berson y rhoddwyd caniatâd Calais iddo);;

ystyr “plentyn a ddiogelir” (“protected child”) yw—

(a)

plentyn i berson a chanddo—

(i)

caniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;

(ii)

caniatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; neu

(iii)

caniatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo;

(b)

plentyn i briod neu bartner sifil person a chanddo—

(i)

caniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo; neu

(ii)

caniatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo;;

ystyr “priod neu bartner sifil a ddiogelir” (“protected spouse or civil partner”) yw priod neu bartner sifil i berson a chanddo—

(a)

caniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo; neu

(b)

caniatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo;;

ystyr “y Rheoliad Gweithwyr” (“the Workers Regulation”) yw Rheoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Ebrill 2011 ar ryddid gweithwyr i symud o fewn yr Undeb(11);;

ystyr “Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020” (“the 2020 Citizens’ Rights Regulations”) yw Rheoliadau Hawliau Dinasyddion (Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau a Diogelwch Dros Dro) (Ymadael â’r UE) 2020(12);.

11.  Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 1 mewnosoder—

1A.  At ddibenion yr Atodlen hon, mae cyfeiriad at “Member State” neu “State” yn Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig.

1B.  At ddibenion yr Atodlen hon, mae person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion os yw’r person hwnnw yn dod o fewn—

(a)Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ymadael â’r UE,

(b)Erthygl 9 (cwmpas personol) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE, neu

(c)Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

12.  Yn yr Atodlen, ym mharagraff 2 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig), yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—

(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac nad yw’n dod o fewn paragraff 3;.

13.  Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

2A.(1) Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ac nad yw’n dod o fewn paragraff 3;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn unol â rheoliad 2(4).

14.  Yn yr Atodlen, ym mharagraff 3—

(a)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

(b)yn yr is-baragraff hwnnw, yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)sy’n bodloni un o’r amodau a ganlyn ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(i)mae’r person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

(ii)o ran y person—

(aa)mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

(bb)mae’n ddinesydd Gwyddelig sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; ac

(cc)byddai’n bodloni’r gofynion cymhwyster ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio pe bai’r person hwnnw yn gwneud cais am ganiatâd o’r fath;

(iii)o ran y person—

(aa)mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

(bb)mae’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020; ac

(cc)mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016(13), fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod gras;

(iv)o ran y person—

(aa)mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

(bb)mae’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020; ac

(cc)mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod perthnasol; neu

(v)mae’r person yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo’r aelod hwnnw o’r teulu wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;;

(c)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

(2) At ddibenion is-baragraff (1)(a)(ii)(cc), ystyr “gofynion cymhwyster ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yw’r gofynion cymhwyster ar gyfer caniatâd o’r fath yn unol â pharagraff EU11 o Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo.

15.  Yn yr Atodlen, yn lle paragraff 4A (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd) rhodder—

Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd

4A.(1) Person—

(a)y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil a ddiogelir;

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo neu fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo);

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

(ch)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Person—

(a)sy’n blentyn a ddiogelir;

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)o dan 18 oed; a

(ii)yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir ar y dyddiad hwnnw (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, caniatâd i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo neu adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 a’r rheolau mewnfudo, yn ôl y digwydd);

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

(ch)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir.

16.  Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 4A mewnosoder—

Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel partner a ddiogelir a’u plant

4B.(1) Person—

(a)y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig;

(ch)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir.

17.  Yn yr Atodlen, hepgorer paragraff 5A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67).

18.  Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 6 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teulu) mewnosoder—

6A.(1) Person sydd â hawliau gwarchodedig neu weithiwr ffin o fewn yr ystyr a roddir i “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â’r UE) 2020(14)

(a)sydd—

(i)yn weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE;

(ii)yn berson Swisaidd cyflogedig neu’n berson Swisaidd hunangyflogedig;

(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);

(iv)yn weithiwr ffin yr AEE neu’n berson hunangyflogedig ffin yr AEE;

(v)yn berson Swisaidd cyflogedig y ffin neu’n berson Swisaidd hunangyflogedig y ffin; neu

(vi)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo’r person sy’n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

(3) Yn y paragraff hwn, mae disgrifiad o berson yn is-baragraff (1)(a)(i) i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai, pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r AEE neu’n wladolyn o’r AEE yn unig, yn weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE.

19.  Yn yr Atodlen, ym mharagraff 7 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teulu)—

(a)yn is-baragraff (1)—

(i)ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “Erthygl 12” hyd at y diwedd rhodder “Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE(15), fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”;

(ii)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(ch)at ddibenion paragraff (c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr mae’r cyfeiriad at “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.;

(b)yn is-baragraff (2), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

20.  Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 7 mewnosoder—

7A.(1) Person sydd â hawliau gwarchodedig—

(a)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd â hawl i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)(c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr—

(a)mae’r cyfeiriad at “national of a Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon; a

(b)mae’r cyfeiriad ar “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig, ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.

21.  Yn yr Atodlen, ym mharagraff 8(1)(b) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period” rhodder “IP”.

22.  Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 8 mewnosoder—

8A.(1) Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(b)sydd wedi ymadael â’r Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(c)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor; neu

(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswyliad arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(ch)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod pan fydd tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd;

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(dd)mewn achos pan oedd preswyliad arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (d).

(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu’n berson yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol sydd ym mhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol, os yw’r person wedi mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir y mae’n wladolyn ohoni neu y mae’r person y mae’n aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn ohoni.

(3) At ddibenion is-baragraff (2), roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.

23.  Yn yr Atodlen, ym mharagraff 9 (gwladolion o’r UE)—

(a)yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “etc.”;

(b)yn is-baragraff (3), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

24.  Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 9 mewnosoder—

9A.(1) Person sydd â hawliau gwarchodedig—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn o’r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(ii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i); neu

(iii)yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon;

(b)sy’n dilyn y cwrs yn y Deyrnas Unedig;

(c)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (c) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu person—

(a)sy’n wladolyn o’r UE neu’n berson perthnasol o Ogledd Iwerddon; a

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn unol â rheoliad 2(4).

Gwladolion o’r Deyrnas Unedig

9B.(1) Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd ar y cwrs; neu

(ii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i);

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE; neu

(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswyliad arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sy’n dilyn y cwrs yn y Deyrnas Unedig;

(ch)sydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) wedi bod yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig—

(a)pan oedd y wladolyn hwnnw o’r Deyrnas Unedig, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi arfer hawl i breswylio yn nhiriogaeth Aelod-wladwriaeth o dan Erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb 2004/38; a

(b)pan fo’r gwladolyn hwnnw o’r Deyrnas Unedig wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn unol â rheoliad 2(4).

(4) Pan fo person (“P”) yn dod o fewn is-baragraff (1)(a)(ii), rhaid i’r person y mae P yn aelod o’r teulu mewn perthynas ag ef hefyd fodloni gofynion is-baragraff (1)(b) ac (ch).

(5) Yn y paragraff hwn, ystyr “tiriogaethau tramor yr UE” yw Aruba; Ynysoedd Ffaröe; Polynesia Ffrengig; Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Mayotte; Kalaallit Nunaat (Greenland); Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten); St Barthélemy; St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; a Wallis a Futuna.

9C.(1) Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu

(ii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i);

(b)sy’n dilyn y cwrs yn y Deyrnas Unedig;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(ch)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) wedi bod yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â rheoliad 2(4).

9Ch.(1) Person—

(a)sy’n aelod o deulu person sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sy’n dilyn y cwrs yn y Deyrnas Unedig;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswyliad arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â rheoliad 2(4).

Personau sy’n preswylio yn Gibraltar

9D.(1) Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;

(ii)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;

(iii)yn wladolyn o’r UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE; neu

(iv)yn aelod o deulu gwladolyn o’r UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE;

(b)sy’n dilyn y cwrs yn y Deyrnas Unedig;

(c)sydd, yn ddarostyngedig i baragraff (2), wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (c) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu person—

(a)sy’n wladolyn o’r UE neu’n berson perthnasol o Ogledd Iwerddon; a

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn unol â rheoliad 2(4).

25.  Yn yr Atodlen, o flaen paragraff 10 mewnosoder y pennawd—

Gwladolion o’r UE – preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd.

26.  Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 10 mewnosoder—

10A.  Person sydd â hawliau gwarchodedig—

(a)sy’n wladolyn o’r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos pan oedd preswyliad arferol y person y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

27.  Yn yr Atodlen, ym mharagraff 11(2) (plant gwladolion o’r Swistir), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

28.  Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 11 mewnosoder—

11A.  Person sydd â hawliau gwarchodedig—

(a)sy’n blentyn i wladolyn o’r Swistir y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 18(2) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos pan oedd preswyliad arferol y person y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

29.  Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 12 (plant gweithwyr o Dwrci) mewnosoder—

12A.  Person—

(a)sy’n blentyn i weithiwr o Dwrci (“T”), pan oedd T yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

(b)a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn blentyn i T; a

(ii)yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig;

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2)

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a sefydlwyd o dan adran 62 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.

(4)

1992 p. 13, a ddiwygiwyd gan adran 27 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30); Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158); adran 34(1) o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p. 10); ac Atodlen 11 i Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29).

(5)

1996 p. 56, a ddiwygiwyd gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 52.

(6)

2000 p. 21, a ddiwygiwyd gan Atodlen 1 i Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1).

(7)

OJ Rhif L158, 30.04.2004, t. 77.

(8)

Diffiniwyd yn adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1).

(9)

1971 p. 77, mewnosodwyd adran 3ZA gan Ddeddf Mewnfudo a Chyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol (Ymadael â’r UE) 2020 (p. 20).

(11)

OJ L 141, 27.05.2011, t. 1, a ddiwygiwyd gan Reoliad (EU) 2016/589 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Ebrill 2016 (OJ L 107, 22.4.2016, t. 1) a Rheoliad (EU) 2019/1149 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Mehefin 2019 (OJ L 186, 11.7.2019, t. 21).

(12)

O.S. 2020/1209, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1309.

(13)

O.S. 2016/1052, a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/1, O.S. 2017/1242, O.S. 2018/801, O.S. 2019/468, O.S. 2019/1155. Dirymwyd O.S. 2016/1052 ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu gan baragraff 2(2) o Atodlen 1 i Ddeddf Mewnfudo a Chyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol (Ymadael â’r UE) 2020 (p. 20), yn ddarostyngedig i’r arbedion yn O.S. 2020/1309.

(15)

Mae Atodiad V o Gytundeb yr AEE yn cyfeirio at Reoliad (EU) Rhif 492/2011, gydag addasiadau nad ydynt yn berthnasol at y dibenion hyn. Mae adran 3(1) a (2)(b) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 18) yn gwneud darpariaeth ar gyfer corffori Atodiadau i Gytundeb yr AEE yng nghyfraith ddomestig.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument without Schedules

The Whole Instrument without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument without Schedules as a PDF

The Whole Instrument without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources