Taenu tail organig ger dŵr wyneb, tyllau turio, ffynhonnau neu bydewauLL+C
14.—(1) [F1Ac eithrio pan fo paragraff 26 o Atodlen 1A yn gymwys,] Ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb oni ddefnyddir cyfarpar taenu manwl, ac yn yr achos hwnnw ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 6 metr i ddŵr wyneb.
(2) Ond caniateir taenu tail da byw yno (ac eithrio slyri a thail dofednod)—
(a)os taenir ef ar dir a reolir ar gyfer bridio adar hirgoes neu fel glaswelltir lled-naturiol cyfoethog ei rywogaethau ac os yw’r tir—
(i)yn dir yr hysbyswyd ei fod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(1), neu
(ii)yn ddarostyngedig i ymrwymiad amaeth-amgylcheddol a wnaed o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005(2), neu Reoliad (EU) 1305/2013(3),
(b)os taenir ef rhwng 1 Mehefin a 31 Hydref yn gynwysedig,
(c)os na thaenir ef yn uniongyrchol ar ddŵr wyneb, a
(d)os nad yw’r cyfanswm blynyddol yn fwy na 12.5 tunnell yr hectar.
(3) Ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew.
F2(4) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 14(1) wedi eu mewnosod (31.12.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 6(a)
F2Rhl. 14(4) wedi ei hepgor (31.12.2023) yn rhinwedd Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 6(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)