- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, ATODLEN 6.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rheoliad 25
1. Mae’r gofynion sydd i’w bodloni mewn perthynas â system storio slyri fel a ganlyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
2. Rhaid i sylfaen y tanc storio slyri, sylfaen a muriau unrhyw danc elifiant, sianelau a phydew derbyn, a muriau unrhyw bibellau fod yn anhydraidd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
3. Rhaid i sylfaen a muriau’r tanc storio slyri, unrhyw danc elifiant, sianelau a phydew derbyn, a muriau unrhyw bibellau fod wedi eu diogelu rhag cyrydiad yn unol â pharagraff 7 o’r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 50: 1993(1).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
4. Rhaid i sylfaen a muriau’r tanc storio slyri ac unrhyw bydew derbyn allu gwrthsefyll llwythi nodweddiadol sydd wedi eu cyfrifo ar y rhagdybiaethau ac yn y dull a ddangosir gan baragraff 5 o’r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 50: 1993.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
5.—(1) Rhaid bod gan unrhyw gyfleusterau a ddefnyddir i storio slyri dros dro cyn iddo gael ei drosglwyddo i danc storio slyri ddigon o le i storio—LL+C
(a)yr uchafswm o slyri (gan ddiystyru unrhyw slyri a fydd yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i danc storio slyri) sy’n debygol o gael ei gynhyrchu yn y fangre mewn unrhyw gyfnod o ddau ddiwrnod, neu
(b)swm llai y mae [F1CNC] wedi cytuno’n ysgrifenedig ei fod yn ddigonol i osgoi unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd a reolir.
(2) Pan fo slyri yn llifo i mewn i sianel cyn cael ei ollwng i bydew derbyn a bod llif y slyri allan o’r sianel yn cael ei reoli gan lifddor, rhaid i’r hyn y gall y pydew derbyn ei ddal fod yn ddigonol i ddal yr uchafswm o slyri y gellir ei ollwng drwy agor y llifddor.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn Atod. 6 wedi ei amnewid (31.12.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 7(f)
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
6. Yn achos tanciau storio slyri sydd â muriau wedi eu gwneud o bridd, rhaid i’r tanc fod ag o leiaf 750 mm o fwrdd rhydd, a 300 mm o fwrdd rhydd ym mhob achos arall.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
7. Ni chaniateir lleoli unrhyw ran o’r tanc storio slyri, nac unrhyw danc elifiant na sianelau na phydew derbyn o fewn 10 metr i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol na dyfroedd arfordirol y gallai slyri fynd i mewn iddynt pe bai’n dianc oni chymerir rhagofalon y mae [F1CNC] wedi cytuno’n ysgrifenedig eu bod yn ddigonol i osgoi unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd a reolir.LL+C
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn Atod. 6 wedi ei amnewid (31.12.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 7(f)
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
8. Rhaid i’r tanc storio slyri ac unrhyw danc elifiant, sianelau, pibellau a phydew derbyn fod wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel y’u bod yn debygol, gyda’r gwaith cynnal a chadw priodol, o barhau i fodloni gofynion paragraffau 2 i 4 am o leiaf 20 mlynedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
9. Os nad yw muriau’r tanc storio slyri yn anhydraidd, rhaid i sylfaen y tanc—LL+C
(a)ymestyn y tu hwnt i’r muriau;
(b)cael o’i hamgylch sianelau sydd wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel eu bod yn casglu unrhyw slyri sy’n dianc o’r tanc;
(c)bod â darpariaeth ddigonol ar gyfer draenio’r slyri o’r sianelau hynny i danc elifiant drwy sianel neu bibell.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
10.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), os oes pibell ddraenio wedi ei gosod yn y tanc storio slyri neu yn unrhyw danc elifiant neu bydew derbyn, rhaid bod dwy falf mewn cyfres ar y bibell a bod pellter o 1 metr o leiaf rhwng un falf a’r llall.LL+C
(2) Rhaid i bob falf allu cau llif y slyri drwy’r bibell a rhaid eu cadw wedi eu cau ac wedi eu cloi yn y safle hwnnw pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â thanc storio slyri sy’n draenio drwy’r bibell i danc storio slyri arall os yw’r tanc arall yn dal yr un faint neu fwy neu os yw topiau’r tanciau ar yr un lefel â’i gilydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ebrill 1993. ISBN 0-580-22053-2.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: